Neidio i'r prif gynnwy

Beth na ddylwn i ddod gyda fi?

Peidiwch â dod ag alcohol, sigaréts, neu lawer o arian neu bethau gwerthfawr eraill gyda chi.  Ni fydd Ymddiriedolaeth GIG Felindre yn derbyn cyfrifoldeb dros golli neu ddifrodi eiddo personol o unrhyw fath sydd ddim yn cael ei roi i staff i’w gadw’n ddiogel a hyd yn oed wedyn, dim ond pethau fydd yn werth hyd at £300 fydd yn cael eu cadw. 

Os byddwch yn dod ag unrhyw offer trydanol neu sain, gwiriwch gyda Phrif Nyrs y Ward cyn eu defnyddio gan fod posibilrwydd y byddai angen iddynt gael prawf diogelwch.