Neidio i'r prif gynnwy

Sut allaf gyrraedd yr ysbyty os na allaf dalu am y tocyn?

  • Os ydych yn derbyn Cymhorthdal Incwm, Credyd Teulu,  Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm neu Lwfans Gweithio i’r Anabl, byddwn yn ad-dalu taliadau am gludiant cyhoeddus (neu gost y petrol). Gofynnwch wrth y ddesg yn nerbynfa’r adran cleifion allanol. Mae angen i chi ddod â thystiolaeth gyda chi i ddangos eich bod yn derbyn budd-dal (megis eich llyfr taliadau budd-dal) a hefyd, tystiolaeth o’r cyfanswm rydych chi wedi ei dalu am eich taith.
  • Os ydych yn derbyn cymorth gyda’ch taliadau ac angen rhywun i ddod i’r ysbyty gyda chi, gallwch chi hawlio am eu taliadau nhw hefyd. Byddwch angen llythyr gan eich meddyg teulu neu gan eich meddyg yn yr ysbyty i ddweud eich bod chi angen rhywun i’ch hebrwng i’r ysbyty.

Os nad ydych yn derbyn Cymhorthdal Incwm ond bod eich incwm yn isel, gofynnwch am ffurflen HC1 o’ch Adran Nawdd Cymdeithasol (DSS) leol, Swyddfa’r Post neu o adran gwasanaethau cymdeithasol yr ysbyty. Efallai y bydd hyn yn cymryd rhai wythnosau i’w brosesu ond caiff ôl-daliadau o dri mis neu lai eu hystyried. Pan fyddwch wedi derbyn eich tystysgrif, dewch â hi yn ôl i’r ddesg yn nerbynfa’r adran cleifion allanol fel tystiolaeth, a byddwch yn cael cymorth gyda’ch taliadau. Mae’r dystysgrif yn ddilys am 6 mis. Bydd rhaid i chi ailymgeisio ar ôl hynny.