Neidio i'r prif gynnwy

Beth sy'n digwydd i'r wybodaeth a ddelir amdanaf i ac a gaf i ei gweld?

Mae gwybodaeth amdanoch chi, eich cyflwr a’ch triniaeth yn hollol gyfrinachol. Ni roddir unrhyw wybodaeth heb eich caniatâd, dim ond i weithwyr proffesiynol eraill sy’n ymwneud â’ch gofal. Gyda’ch caniatâd, fel arfer bydd y meddygon yn rhoi’r newyddion diweddaraf i’ch perthynas agosaf. Hefyd bydd eich meddyg teulu yn cael ei ddiweddaru am eich cynnydd.

Mae Deddf Mynediad at Gofnodion Iechyd (1990) yn rhoi’r hawl i chi weld cofnodion meddygol a wnaed amdanoch chi ar ôl 1 Tachwedd 1991. Os hoffech gael mynediad ffurfiol at eich cofnodion, ysgrifennwch at Reolwr y Cofnodion Iechyd yn Felindre.  Mae’r meddygon a’r staff eraill sy’n gofalu amdanoch bob amser yn fodlon trafod eich salwch a’ch triniaeth ac ateb unrhyw gwestiynau. Os hoffech weld eich cofnodion meddygol, siaradwch â’ch meddyg.