Rydym yn ceisio gwneud yn siŵr bod cleifion yn cael eu gweld ar yr amser a roddwyd ar gyfer yr apwyntiad neu o leiaf o fewn 30 munud. Weithiau, efallai bydd presenoldeb cleifion sy’n sâl iawn yn golygu y gwelir cleifion allan o’u trefn a gall hyn achosi oedi. Mae hefyd yn anodd rhagweld am ba mor hir y bydd pob ymgynghoriad yn parhau, oherwydd bod gan gleifion wahanol anghenion. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw oedi.