Dylai eich cais nodi’n glir yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch.
- Byddwch mor glir â phosibl. Os nad ydym yn siŵr beth sydd ei angen arnoch, bydd yn rhaid i ni ofyn i chi am ragor o wybodaeth, a allai ohirio’r broses.
- Ceisiwch nodi yn union beth sydd ei angen arnoch. Gellir gwrthod eich cais pe byddai'n rhy ddrud i ni ymdrin ag ef. Gallwn hefyd godi tâl arnoch am rai o'r treuliau sy'n gysylltiedig â chyflenwi'r wybodaeth, er enghraifft, llungopïo.
- Lle bynnag y bo'n bosibl, gofynnwch am wybodaeth benodol yn hytrach na defnyddio cwestiynau penagored.
- Dywedwch sut yr hoffech dderbyn y wybodaeth. Er enghraifft, p'un a ydych eisiau cael yr wybodaeth yn electronig neu ar bapur