Gallwch ofyn am unrhyw wybodaeth o’ch dewis, ond cyn i chi wneud cais, gall fod yn ddefnyddiol ystyried y cwestiynau canlynol:
- A yw’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar gael eisoes? - Er enghraifft, a yw eisoes wedi’i chyhoeddi ar ein gwefan.
- Ai eich data personol chi yw’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch? - Os yw eich cais yn ymwneud â gwybodaeth amdanoch chi, fel eich cofnodion meddygol, dylech wneud cais gwrthrych am wybodaeth o dan y Ddeddf Diogelu Data.
- A yw’r wybodaeth yn debygol o fod ym meddiant Felindre? - Gall arbed amser drwy ofyn i ni p’un a yw’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch yn debygol o fod gennym.