Neidio i'r prif gynnwy

Pa wybodaeth y gallaf ofyn amdani?

Mae gennych hawl gyfreithiol i ofyn am unrhyw wybodaeth sydd wedi'i chofnodi a gedwir gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.

  • Gallwch ofyn am unrhyw wybodaeth yr ydych yn credu y gallem fod yn ei chadw. Dim ond gwybodaeth sydd wedi'i chofnodi y mae'r hawl hon yn ei chwmpasu.
  • Gall eich cais fod ar ffurf cwestiwn, ond nid oes rhaid i ni ateb eich cwestiwn pe byddai hyn yn golygu creu gwybodaeth newydd neu roi barn neu ddyfarniad nad ydynt eisoes wedi'u cofnodi.
  • Dylech nodi'n glir yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch.
  • Efallai na fydd rhai mathau o wybodaeth yn cael ei rhoi i chi gan ei bod wedi'i heithrio. Er enghraifft, os byddai'n golygu datgelu gwybodaeth bersonol am rywun arall mewn modd annheg.

Os ydy'r wybodaeth yn wybodaeth amgylcheddol, yna bydd Felindre yn ymateb yn unol â'r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (EIR).