Rydym yn ceisio cydnabod pob cais Rhyddid Gwybodaeth o fewn 2 ddiwrnod gwaith, ac anfon ymateb llawn atoch o fewn 20 diwrnod gwaith.
Gallem:
- ddarparu'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi;
- dweud wrthych nad ydym yn cadw'r wybodaeth;
- dweud wrthych bod awdurdod arall yn cadw'r wybodaeth;
- os yw eich cais yn hir, ac y gallai fynd â'r Ymddiriedolaeth dros y terfyn ffioedd priodol o £450 i gasglu'r wybodaeth, cynnig darparu'r data ar ôl i chi dalu ffi;,
- dweud bod yr wybodaeth gennym a chynnig ei darparu i chi ar ôl i chi dalu ffi;
- gwrthod rhoi'r wybodaeth i chi ac esbonio pam; neu
- ddweud bod angen mwy o amser arnom i ystyried budd y cyhoedd, a dweud wrthych pa bryd i ddisgwyl ymateb.