Neidio i'r prif gynnwy
Sarah Morley

Amdanaf i

Yn dilyn gyrfa lwyddiannus fel Ymgynghorydd Hyfforddiant Technoleg Gwybodaeth hunangyflogedig, dechreuodd Sarah weithio yn GIG Cymru am y tro cyntaf yn 2000, yn hen Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent gynt. Yn ystod ei 10 mlynedd yng Ngwent, cafodd gyfle i weithio mewn nifer o rolau ar draws y meysydd Addysg, Datblygu a'r Gweithlu, cyn ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn 2010 fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol Datblygu Sefydliadol.

Penodwyd Sarah yn Gyfarwyddwr Gweithredol y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn 2014. Fel rhan o'r rhwydwaith o Gyfarwyddwyr GIG Cymru, mae gan Sarah nifer o rolau arweiniol yn GIG Cymru ar draws y meysydd Amrywiaeth a Chynhwysiant, y Gymraeg, ac mewn datblygu’r Proffesiwn Datblygu Pobl a Sefydliadol.

Bu Sarah’n gadeirydd Cymdeithas Rheoli Pobl Gofal Iechyd Cymru (HPMA) o fis Medi 2016 am ddwy flynedd ac yna, bu’n gweithredu fel un o Ddirprwy Arlywyddion HPMA y DU tan fis Ebrill 2023, pan ddechreuodd weithio fel Cyd-Lywydd HPMA.