Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Ymchwil Canser y Byd

24 Medi 2024

 

Dydd Mawrth 24 Medi yw'r diwrnod i dynnu sylw at bwysigrwydd ymchwil canser er mwyn gwella canlyniadau i gleifion.

Mae bob amser yn ysbrydoledig pan fydd ein cleifion yn cefnogi ein hymchwil – mae eu straeon yn bwerus ac wir yn pwysleisio'r gwahaniaeth y gall ymchwil ei wneud i fywydau cleifion nawr ac yn y dyfodol.

 

Dyma rai o'n cleifion yn siarad am eu profiadau.

Polaroid photo style image of four patients, Anthony, Bryan, Farhana and Agustina

 

Anthony yn siarad am dreial clinigol Concorde.

Bryan oedd y claf cyntaf ar ein treial PEARL.

Roedd Farhana yn rhan o'n treial clinigol hynod lwyddiannus o’r enw FAKTION – bydd y ddolen yn mynd â chi i raglen hanner awr ITV Wales yr wythnos hon am dreialon clinigol lle mae Farhana yn siarad am ei phrofiad.

Agustina oedd y claf cyntaf ar dreial clinigol cyntaf Canolfan Ymchwil Canser Caerdydd.

 

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi tynnu sylw at rai o'n pobl mewn ymchwil a'n cyraeddiadau allweddol, gan gynnwys:

 

 

Mae ymchwil ar draws yr Ymddiriedolaeth yn cwmpasu amrywiaeth o fathau o ganser a mathau o astudio.
Po fwyaf y swigen, y gorau bydd ein hymchwil!

 

bubble graphic showing relative number of studies by cancer site

 

Ewch i fwy o fanyldder gydag Adroddiad Blynyddol Ymchwil, Datblygu ac Arloesi 2023-24.