Neidio i'r prif gynnwy

Treial i drin tiwmor yr ymennydd yn torri tir newydd

31 Awst 2023

Mae treial clinigol blaenllaw yn y DU i drin y math mwyaf difrifol o diwmor yr ymennydd wedi agor yng Nghanolfan Ganser Felindre.

Mae treial ARISTOCRAT, sy’n cael ei ariannu gan The Brain Tumour Charity, ar ei ail gam a bydd yn para am dair blynedd. Bydd yn ymchwilio i’r cyfuniad o nabiximols a chemotherapi ac a fydd yn helpu i ymestyn bywyd pobl sydd wedi cael diagnosis o glioblastoma sydd wedi dychwelyd.

Meddai Jillian Maclean, sy’n Oncolegydd Ymgynghorol yng Nghanolfan Ganser Felindre:

“Mae treialon clinigol Aristocrat yn dreial cyffrous iawn ac mae'n braf gallu bod yn rhan ohono. Dyma gyfle gwych i wella ansawdd bywyd cleifion gyda thiwmor ar yr ymennydd a’u cyfle i oroesi.

“Mae ein timau ymchwil wedi gweithio'n galed iawn yma i agor yr astudiaeth yma yng Nghanolfan Ganser Felindre. Rydyn ni wedi recriwtio ein claf cyntaf ac yn gobeithio y bydd llawer mwy o gleifion yn y dyfodol.

“Er gwaethaf ymchwil ddwys a gweithredol, mae tiwmor ar yr ymennydd yn uchel ei radd yn cyfyngu’n fawr ar oes cleifion, felly bydd y cyfle am fath arall o driniaeth yn hynod o werthfawr i gleifion.”

Bydd yn recriwtio mwy na 230 o gleifion glioblastoma mewn 14 o ysbytai’r GIG ledled Prydain Fawr yn 2023, a dylai unrhyw un sydd â diddordeb yn yr astudiaeth hon siarad â’i dîm meddygol yn gyntaf i sicrhau ei fod yn gymwys i gymryd rhan.

Bydd y rheiny sy'n cymryd rhan yn chwistrellu nabiximols, sy’n dod o ganabis, neu sylwedd plasebo trwy’r geg a byddant yn cael apwyntiadau dilynol rheolaidd gyda'r tîm treialon clinigol. Bydd y rhain yn cynnwys profion gwaed a sganiau MRI.

Ym mis Awst 2021, gyda chefnogaeth y pencampwr Olympaidd Tom Daley, cododd apêl codi arian gan The Brain Tumor Charity y swm angenrheidiol o £450,000 ar gyfer ail gam y treial mewn cyn lleied â thri mis.

Meddai Dr David Jenkinson, Prif Swyddog Gwyddonol Elusen The Brain Tumor Charity, sy’n ariannu’r treial:

“Rydym yn hynod gyffrous y gallai’r treial hwn yn y DU, sef y cyntaf o’i fath yn y byd, helpu i iacháu cleifion gyda’r clefyd ofnadwy hwn yn gyflymach.

“Roedd y canfyddiadau cynnar yn wirioneddol addawol, ac rydym yn edrych ymlaen erbyn hyn at weld a allai ychwanegu nabiximols at gemotherapi wella ansawdd bywyd ac ymestyn bywyd y rheiny sydd wedi cael diagnosis o glioblastoma. Gobeithio y bydd hwn yn cynnig y cyffur newydd cyntaf i drin glioblastoma ers 15 mlynedd a mwy.”

Glioblastoma yw'r math mwyaf difrifol o ganser yr ymennydd a bydd cleifion, ar gyfartaledd, yn byw am lai na 10 mis ar ôl i’r canser ddychwelyd.

Yn 2021, canfu cam cyntaf y treial clinigol fod 27 o gleifion yn gallu goddef nabiximols ynghyd â chemotherapi, a bod ganddo'r potensial i ymestyn bywydau'r rheiny sydd â glioblastoma sydd wedi dychwelyd.

Pe bai’r treial yn llwyddiannus, mae arbenigwyr yn gobeithio y gallai nabiximols fod yn driniaeth newydd, addawol i’r GIG ar gyfer cleifion glioblastoma, a’r cyntaf ers cemotherapi temozolomide yn 2007.

 

Sut mae modd i mi gymryd rhan yn y treial?
Siaradwch â'ch tîm triniaeth ynglŷn â’r meini prawf ar gyfer y treial.
Am fwy o wybodaeth, ewch i: https://www.birmingham.ac.uk/research/crctu/trials/aristocrat/index.aspx