Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad: Gweithredu diwydiannol

A graphic of the Velindre University NHS Trust logo.

“Yn dilyn y cyhoeddiad y bydd staff sy’n perthyn i undeb y Coleg Nyrsio Brenhinol yn streicio ar ddau ddyddiad yng nghanol mis Rhagfyr, mae Felindre eisiau sicrhau ei chleifion a’i rhoddwyr gwaed bod cynllunio ar y gweill i sicrhau ein bod yn gallu parhau i ddarparu ein gwasanaethau achub bywyd a gofal cynnal bywyd yn ystod y cyfnod o aflonyddwch.

"Rydym yn archwilio pob opsiwn posibl i sicrhau bod ein gwasanaethau yn gallu parhau i fod ar gael i'r rhai sydd eu hangen.

"Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu pan fydd maint y streic wedi’i sefydlu.”

Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre