Neidio i'r prif gynnwy

Yn falch o'n gorffennol, yn gyffrous am ein dyfodol

Am 70 mlynedd, rydyn ni wedi cefnogi pobl drwy rai o adegau mwyaf heriol bywyd. Rydyn ni wedi helpu i ysgogi arloesi mewn gofal canser ac yn sgil hynny rydyn ni wedi cael ein llunio gan genedlaethau o staff, gwirfoddolwyr, cefnogwyr a chleifion.

Wrth i ni ddathlu'r garreg filltir hon, rydyn ni’n myfyrio ar y bobl, y straeon a'r cyflawniadau sydd wedi llunio Felindre dros y 70 mlynedd diwethaf. Rydyn ni hefyd yn edrych ymlaen at ddyfodol cyffrous, sy’n cynnwys symud i Ganolfan Ganser newydd Felindre.

Drwy gydol blwyddyn ein pen-blwydd arbennig, byddwn yn rhannu atgofion, ffotograffau a straeon personol sy'n dathlu 70 mlynedd o obaith, ac rydyn ni am i chi ymuno â ni...


Eich stori chi yw ein hanes ni

Nid yw stori Felindre yn cael ei hadrodd drwy adeiladau, triniaethau na cherrig milltir yn unig. Fe'i hadroddir gan y bobl sydd wedi mynd drwy ein drysau.

P'un a ydych chi wedi gweithio yn Felindre, wedi gwirfoddoli, wedi bod yn glaf, wedi cefnogi anwylyd, wedi codi arian neu os oes gennych gysylltiad â'r gwasanaeth, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

Helpwch ni i greu archif fyw o hanes Felindre drwy rannu eich atgofion o’r gwasanaeth. Gall hyn gynnwys:

  • Atgofion personol
  • Ffotograffau hanesyddol
  • Profiadau cleifion
  • Straeon staff
  • Myfyrdodau ar sut mae Felindre wedi newid

Gall cyfraniadau dethol gael eu cynnwys ar ein gwefan, sianeli cyfryngau cymdeithasol, sgriniau digidol yn ein safleoedd, ac fel rhan o ddathliadau ehangach ein pen-blwydd.

Cwblhewch y ffurflen hon i rannu eich atgofion.


Arddangosfa Y Celfyddydau mewn Iechyd

Rydyn ni wedi partneru â'n rhaglen Y Celfyddydau mewn Iechyd i greu arddangosfa arbennig sy’n dathlu hanes Gwasanaeth Canser Felindre.

Drwy ffotograffau, straeon a chynnwys hanesyddol, mae’r arddangosfa’n archwilio’r ffordd y mae Felindre wedi esblygu dros y blynyddoedd a'r effaith y mae wedi'i chael ar gleifion, teuluoedd a staff ledled Cymru.

Bydd yr arddangosfa’n parhau yng Nghanolfan Ganser Felindre yng Nghaerdydd hyd nes y symudir i Ganolfan Ganser newydd Felindre.

Mae ein rhaglen Y Celfyddydau mewn Iechyd, sy’n llawn angerdd, ac wedi’i hariannu gan Elusen Canser Felindre, yn helpu i greu cyfleoedd sy'n gwella profiadau a llesiant cleifion, teuluoedd a staff.

Os hoffech chi helpu'r gwaith hwn i barhau, gallwch ei gefnogi trwy roi rhodd i Elusen Canser Felindre. Cyfrannu heddiw.


Newyddion am ein pen-blwydd a straeon ysbrydoledig

Mae hanes Felindre wedi cael ei lunio gan nifer di-rif o bobl, profiadau a chyflawniadau. Drwy gydol blwyddyn y pen-blwydd, byddwn yn rhannu straeon pobl o orffennol, presennol a dyfodol Gwasanaeth Canser Felindre.