Datganiad gan Steve Ham, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, lle y mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn wasanaeth cenedlaethol gweithredol.
Mae'r Ymchwiliad Gwaed Heintiedig yn ymchwiliad statudol cyhoeddus annibynnol a sefydlwyd i archwilio'r amgylchiadau lle cafodd dynion, menywod a phlant a gafodd eu trin gan wasanaethau iechyd gwladol yn y DU gan waed heintiedig a chynhyrchion gwaed heintiedig, yn enwedig yn y 1970au, 80au a’r 90au cynnar.
Mae radiograffydd arloesol a ymddeolodd yr wythnos diwethaf ar ôl bron i 40 mlynedd yng Nghanolfan Ganser Felindre wedi cael ei ddathlu gan gydweithwyr fel 'arweinydd ysbrydoledig'.
Mae'r Gwyddonydd Ymchwil Michael Cahillane yn gweithio i leihau gwastraff a hybu stociau cydrannau Gwasanaeth Gwaed Cymru.
Mae Dr Whawell yn ymuno â Felindre gyda dros 20 mlynedd o brofiad yn y gadwyn gyflenwi a logisteg ar draws amrywiaeth o gwmnïau blaenllaw a rhyngwladol. Bydd rôl Dr Whawell fel Aelod Annibynnol Cyswllt yn ei gweld yn cyfrannu ei sgiliau a’i harbenigedd ar draws ystod eang o feysydd. Ar ôl gweithredu systemau integredig yn llwyddiannus mewn sefydliadau o bob maint, bydd cefndir ac arbenigedd Dr Whawell yn dod â llawer o fanteision i Felindre.
Dechreuodd Wayne Griffiths ymwneud â chodi arian am y tro cyntaf pan gafodd ei ddiweddar ferch Rhian ddiagnosis o ganser ceg y groth yn 2010. Derbyniodd yr anrhydedd i gydnabod ei ymdrechion anhygoel i godi arian, sydd wedi rhagori ar £918,000 er cof am Rhian, a fu farw yn anffodus yn 2012.
Mae Dr James Powell, Oncolegydd Clinigol Ymgynghorol yng Nghanolfan Ganser Felindre ac Academydd Clinigol yng Nghanolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC), wedi cael ei benodi’n Arweinydd Clinigol Menter Ymchwil Tiwmorau’r Ymennydd (BATRI), cronfa ymchwil newydd i diwmorau’r ymennydd, a sefydlwyd gan Ymchwil Canser Cymru.
Mae astudiaeth arloesol dan arweiniad Dr Magda Meissner, sy'n Oncolegydd Meddygol Ymgynghorol yng Nghanolfan Ganser Felindre, a Sian Morgan, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan, wedi cael ei henwebu ar gyfer dwy wobr genedlaethol.