Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn falch o groesawu penodiad Lindsay Foyster fel Aelod Bwrdd Annibynnol newydd. Mae Lindsay yn ymuno â Bwrdd yr Ymddiriedolaeth yn Felindre am dymor o bedair blynedd ac yn dod i’r sefydliad gyda chyfoeth o brofiad strategol yn y trydydd sector a’r sector cyhoeddus.
Cyhoeddwyd anrhydedd Sarah Bull yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2024 a chynhaliwyd seremoni arbennig yng Ngwesty Coed Y Mwster, ger Pen-y-bont ar Ogwr. Yn rhan o’r tîm Seicoleg Glinigol yng Nghanolfan Ganser Felindre, mae Sarah wedi’i chydnabod am wasanaethau i ofal lliniarol yn ystod gyrfa ragorol sydd wedi ymestyn dros sawl degawd.
Mae timau ac unigolion o Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre wedi cael eu henwebu am sawl gwobr sy'n dathlu pobl wych a syniadau dewr ledled Cymru.
Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi dyfarnu Cymrodoriaeth i ddau aelod o Ganolfan Ganser Felindre: yr Athro Mark Taubert, sy’n Gyfarwyddwr Clinigol ar Feddygaeth Liniarol, a Dr Seema Arif, sy’n Oncolegydd Clinigol Ymgynghorol.