Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarwyddwr Meddygol camu o'r neilltu ar ôl chwe blynedd

Ar ôl chwe blynedd, bydd Dr Eve Gallop-Evans yn camu o’i rôl yn Gyfarwyddwr Clinigol ar Ganolfan Ganser Felindre ddiwedd mis Rhagfyr.

Mae Eve wedi cefnogi ei chydweithwyr trwy newidiadau sylweddol, gan gynnwys yr heriau ynghlwm wrth bandemig COVID-19, delio â chymhlethdod cynyddol triniaethau, yr angen i reoli pob agwedd ar y llwybr canser anlawfeddygol a chadw cleifion yn ddiogel ledled y rhanbarth.

Mae hi wedi ymgymryd â’r rôl â gwybodaeth, tosturi a synnwyr rhagorol, a hynny wrth ddarparu cefnogaeth uniongyrchol yn aml i dimau clinigol mewn clinigau a thrwy gyflenwi nifer o sifftiau ar alwad, i gyd yn ogystal â’i harbenigedd clinigol ac ymchwil ei hun a’i rolau archwilio gyda Choleg Brenhinol y Radiolegwyr.

Mae'n cael ei pharchu'n eang ac yn cael ei gwerthfawrogi'n fawr gan bawb sy'n gweithio gyda hi, o'r ystod eang o grwpiau proffesiynol sy'n gwneud i'r Ganolfan Ganser weithio mor dda.

Meddai Rachel Hennessy, Cyfarwyddwr Dros Dro ar y Gwasanaethau Canser “Mae Eve wedi bod yn gefnogaeth wych yn bersonol i mi yn fy rôl fel Cyfarwyddwr Dros Dro ond hefyd fel aelod allweddol o’r Uwch Dîm Arwain.

“Mae hi bob amser yn gwenu ac yn dod ag egni a brwdfrydedd i bopeth mae hi’n ei wneud. Oddi wrthyf fi a’r Uwch Dîm Arwain, dymunwn bob hwyl iddi â’i hanturiaethau newydd.”

Bydd Eve yn parhau yn ei rôl fel Ymgynghorydd yn y Ganolfan Ganser a bydd Cyfarwyddwr Meddygol newydd yn cael ei recriwtio maes o law.