Rydym eisiau clywed gennych chi!
Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn annog cleifion a'u teuluoedd neu ofalwyr i roi adborth ar eu profiadau o'n gwasanaethau.
Gellir gwneud hyn trwy ddefnyddio system Civica, sy'n caniatáu i gyfranogwyr gwblhau arolwg o gwestiynau ynghylch sut maen nhw'n teimlo eu bod nhw wedi cael eu trin.
Mae'r holl holiaduron yn ddienw, oni bai bod cyfranogwyr yn dewis gadael eu manylion cyswllt ar ddiwedd yr holiadur.
Mae derbyn adborth amser real gan ein cleifion a'n rhoddwyr, boed yn dda neu'n ddrwg, yn ein helpu i wella ein gwasanaethau yn barhaus, a gwneud penderfyniadau gwasanaeth yn seiliedig ar eich meddyliau a'ch profiadau. Gallwch weld sut rydyn ni'n cael ein graddio ar hyn o bryd gan gleifion a theuluoedd ar ein tudalen Adroddiadau ar Berfformiad.
Os hoffech roi adborth ar unrhyw brofiad a gawsoch, llenwch arolwg trwy'r dolenni isod:
Fel arall, os hoffech godi pryder am eich profiad yng Nghanolfan Ganser Felindre, gallwch wneud hyn ar ein gwefan. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar ein tudalen Pryderon a Chwynion.