Taflen wybodaeth ar gemotherapi temozolomide
Mae’r daflen hon yn darparu gwybodaeth am gwrs o gemotherapi o’r enw temozolomide (gelwir ef weithiau yn Temodal). Bydd yn esbonio beth yw’r driniaeth a phryd a sut y bydd yn cael ei rhoi. Bydd hefyd yn dweud wrthych am sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu dioddef. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am temozolomide ar ddiwedd y daflen hon.
Dylech ddarllen y daflen hon ochr yn ochr â thaflen ‘Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy’n cael cemotherapi’. Os nad ydych wedi cael y daflen hon, gofynnwch i’ch nyrs am gopi.
Beth yw cemotherapi temozolomide?
Triniaeth cemotherapi sy’n cael ei rhoi fel tabledi yw temozolomide.
Pam ydw i’n cael cemotherapi temozolomide?
Mae eich meddyg wedi argymell y math hwn o gemotherapi am fod ymchwil wedi dangos y gall fod yn effeithiol wrth drin y math o ganser sydd gennych.
Pa mor aml fyddaf yn cael fy nghemotherapi?
Gellir rhoi temozolomide mewn dwy ffordd. Bydd eich meddyg neu’ch nyrs yn esbonio sut bydd eich triniaeth yn cael ei rhoi.
1. Radiotherapi a chemotherapi cyfunol
Byddwch yn cael eich radiotherapi bob dydd o’r wythnos (dydd Llun – dydd Gwener) am 6 wythnos. Byddwn yn rhoi taflen wybodaeth ar wahân i chi sy’n dweud mwy wrthych am eich radiotherapi.
Dylech gasglu eich tabledi temozolomide o’r fferyllfa ar ddiwrnod cyntaf eich triniaeth radiotherapi. Ewch at y peiriant triniaeth yn gyntaf a gallant eich cyfeirio i’r fferyllfa.
Yn ystod eich triniaeth radiotherapi, byddwch yn cymryd y tabledi temozolomide bob dydd (7 diwrnod yr wythnos) am 6 wythnos. Byddwch yn cael prawf gwaed bob wythnos a byddwn yn rhoi cyflenwad o dabledi temozolomide i chi ar gyfer yr wythnos honno.
Byddwn hefyd yn rhoi cwrs o wrthfiotigau i chi o’r enw septrin (fe’u gelwir hefyd yn co-trimoxazole). Mae hyn er mwyn atal math o haint ar y frest a allai ddigwydd mewn cleifion sy’n cael triniaeth gyfunol. Mae angen i chi gymryd y gwrthfiotigau 3 gwaith yr wythnos, fel arfer ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener. Dylech eu cymryd gyda bwyd a chyda digonedd o ddŵr.
Dylech ddweud wrthym os oes gennych alergedd i septrin er mwyn i ni allu rhoi gwrthfiotig gwahanol i chi.
Ar ôl i chi orffen eich radiotherapi, byddwch yn parhau i gymryd y tabledi temozolomide fel y disgrifir isod.
2. Cemotherapi ar ei ben ei hun
Os ydych chi wedi gorffen eich radiotherapi neu’n cael cemotherapi ar ei ben ei hun, byddwch yn cymryd y tabledi temozolomide am bum niwrnod wedyn yn cael seibiant o’u cymryd am 23 diwrnod. Caiff hyn ei adnabod fel cylch triniaeth. Efallai y byddwch yn cael hyd at 6 chylch o driniaeth (24 wythnos i gyd).
Efallai y byddwch yn cael sgan MRI yn ystod eich triniaeth neu ar ei hôl. Mae hyn er mwyn gwirio effaith y cemotherapi ar eich tiwmor. Bydd eich meddyg yn trafod hyn gyda chi cyn i chi ddechrau eich cemotherapi.
Pa mor aml fyddaf i’n mynd i’r ysbyty?
Byddwch yn gweld eich nyrs neu’ch meddyg yn y clinig cleifion allanol unwaith bob 4 wythnos. Byddwch yn cael prawf gwaed a byddwn yn gwirio sut yr ydych yn teimlo ac yn trafod unrhyw broblemau a allai fod gennych. Mae hyn er mwyn i ni allu gwirio sut y mae’r cemotherapi yn effeithio arnoch. Os yw eich canlyniadau gwaed yn iawn, gellir argymell eich cemotherapi.
Pa mor hir fyddaf i yn yr ysbyty?
Gallech fod yn yr ysbyty am hyd at 3 awr.
Ble mae fy apwyntiad?
Mae eich apwyntiad yn un o’r adrannau cleifion allanol yng Nghanolfan Ganser Felindre.
Sut dylwn i gymryd y tabledi temozolomide?
Rhaid cymryd y tabledi ar stumog wag, felly awr cyn neu ar ôl bwyta. Dylech eu llyncu’n gyfan gyda gwydraid o ddŵr. Ni ddylech eu cnoi na’u malu’n fân.
Mae’n bwysig eich bod yn golchi’ch dwylo’n drylwyr ar ôl cymryd eich tabledi.
Os ydych chi’n cael radiotherapi, dylech gymryd y tabledi temozolomide awr cyn eich triniaeth. Ond os bydd amser eich radiotherapi yn newid llawer bob dydd, byddai’n well cymryd y tabledi tua’r un amser bob dydd. Os ydych yn pryderu ynglŷn â beth i’w wneud, trafodwch hyn gyda’ch nyrs arbenigol neu’ch radiograffydd.
Sut dylwn i storio’r tabledi temozolomide?
Dylech storio eich tabledi yn eu pecyn gwreiddiol ac mewn lle diogel ymhell o afael plant. Dylech eu cadw mewn lle sych ac oer.
Dylech ddychwelyd unrhyw dabledi heb eu defnyddio i Fferyllfa’r ysbyty neu’ch fferyllfa leol i’w gwaredu’n ddiogel.
Beth yw’r sgîl-effeithiau posibl?
Nid yw’r rhan fwyaf o gleifion yn cael llawer o sgîl-effeithiau gyda’r math hwn o gemotherapi. Gall y meddygon, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.
Colli gwallt
Ni ddylech golli eich gwallt gyda’r cemotherapi hwn. Fodd bynnag, bydd gwallt rhai cleifion yn teneuo. Mae gennym daflen sy’n dweud mwy wrthych ynglŷn ag ymdopi â cholli gwallt. Gofynnwch i’ch nyrs os hoffech gael copi.
Salwch
Mae’r driniaeth hon yn achosi cyfog (teimlo’n sâl) neu chwydu i rai pobl. Byddwn yn rhoi meddyginiaethau gwrthgyfog i chi, sy’n hynod effeithiol fel arfer.
Os byddwch yn chwydu mwy nag unwaith mewn 24 awr, er eich bod yn cymryd meddyginiaeth wrthgyfog yn rheolaidd, dylech roi’r gorau i gymryd eich tabledi temozolomide a chysylltu â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.
Heintiau
Bydd eich risg o ddal heintiau’n uwch gan y gall y driniaeth hon leihau eich celloedd gwaed gwyn sy’n helpu i drechu heintiau. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft, symptomau sy’n debyg i’r ffliw neu dymheredd sy’n uwch na 37.5° canradd. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.
Gall temozolomide leihau nifer y platennau a gynhyrchir (sy’n helpu’r gwaed i geulo). Bydd hyn yn cynyddu eich risg o gleisio neu waedu. Os byddwch yn sylwi ar unrhyw gleisiau ar eich corff fel trwyn yn gwaedu neu waedu o’ch deintgig, dylech gysylltu â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.
Effeithiau ar eich perfedd
Gall temozolomide achosi rhwymedd a dolur rhydd. Os oes gennych rwymedd, gellir ei wella trwy yfed digonedd o hylifau a bwyta llawer o ffibr. Gall eich meddyg roi meddyginiaeth ar bresgripsiwn i wella’r rhwymedd.
Os oes gennych ddolur rhydd, mae’n bwysig i chi yfed digonedd o hylifau. Mae meddyginiaeth ar gael i reoli dolur rhydd. Os byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith yn fwy na’r hyn sy’n arferol i chi mewn 24 awr, dylech roi’r gorau i gymryd eich tabledi temozolomide a chysylltu â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.
Blinder a lludded
Gall cemotherapi wneud i chi deimlo’n fwy blinedig na’r arfer. Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os bydd angen i chi wneud hynny ond dylech barhau â’ch gweithgareddau arferol os teimlwch eich bod yn gallu gwneud hynny. I rai pobl, gall ychydig o ymarfer corff fod yn fuddiol yn ogystal â gorffwys. Gall temozolomide wneud i chi fod eisiau cysgu’n fwy na’r arfer.
Ceg ddolurus
Mae’n bosibl y bydd eich ceg yn ddolurus neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach. Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen cemotherapi gyffredinol. Mae’n bosibl y bydd eich meddyg yn rhoi presgripsiwn am gegolch neu feddyginiaeth i chi er mwyn atal neu glirio unrhyw haint.
Gellir effeithio ar eich gallu i gael plant yn ystod y driniaeth hon ac ar ei hôl. Byddwch yn cael y cyfle i drafod hyn gyda’ch meddyg cyn i’r driniaeth ddechrau.
Mae menywod weithiau’n gweld y gall triniaeth cemotherapi effeithio ar eu mislif. Gallent fod yn drymach, yn ysgafnach neu hyd yn oed ddod i ben yn gyfan gwbl.
Mae’n bwysig nad ydych yn beichiogi neu’n cenhedlu plentyn tra byddwch yn cael triniaeth cemotherapi.
Sgîl-effeithiau eraill
Bydd rhai cleifion yn cael pen tost. Os byddwch yn cael pen tost, ceisiwch gymryd pa bynnag gyffuriau lladd poen yr ydych fel arfer yn eu cymryd ar gyfer pen tost. Os nad yw hyn yn helpu, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am fwy o gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.
Gall rhai cleifion ddatblygu brech. Os bydd hyn yn digwydd, rydym yn argymell y dylech ddefnyddio hufen lleithio. Os bydd y frech yn cosi neu’n anghyfforddus, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.
Mae nifer fach o gleifion yn datblygu peswch sych ac yn teimlo ychydig yn brin o anadl. Os bydd hyn yn digwydd, dywedwch wrth eich meddyg y tro nesaf y byddwch yn mynd i’r clinig.
Taflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr
Mae copïau o daflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr cyffuriau ar gael o Fferyllfa Felindre, neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk Mae’r taflenni hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl am gyffuriau unigol. Nid ydym yn eu dosbarthu fel mater o drefn oherwydd gallent fod yn anodd eu darllen. Gofynnwch os hoffech gopi.
Canolfan Ganser Felindre 029 2061 5888
Gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi os byddwch yn sâl gartref a bod angen sylw arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Er enghraifft, dylech ffonio yn achos y canlynol:
Adran fferyllol 029 2061 5888 est. 6223
Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau
Llinell cymorth canser
radffôn Tenovus 0808 808 1010
Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 4.30pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch canser
Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Cafodd y daflen ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.
|