932
Taflen wybodaeth am Nivolumab
Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth i gleifion sy’n cael triniaeth gyda nivolumab. Bydd y daflen yn esbonio beth yw nivolumab a sut a phryd y bydd yn cael ei roi. Bydd hefyd yn dweud wrthych am unrhyw sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu dioddef. Mae rhifau ffôn cyswllt a gwybodaeth am sut i gael rhagor o wybodaeth am nivolumab ar ddiwedd y daflen hon.
Beth yw nivolumab a pam ydw i’n ei gael?
Triniaeth yw nivolumab sy’n helpu eich system imiwnedd i ymosod a dinistrio celloedd canser. Mae nivolumab yn cael ei ddefnyddio i drin eich math chi o gyffur, ond nid yw’n gyffur cemotherapi.
Pa mor aml fyddaf yn cael nivolumab?
Er mwyn i’r driniaeth hon fod ar ei mwyaf effeithiol, caiff ei rhoi ar gyfnodau amser penodol. Mae'n arferol cael nivolumab bob pythefnos. Bydd eich meddyg yn trafod gyda chi am ba mor hir y bydd yn rhaid i chi barhau i gael y driniaeth.
Pa mor aml fyddaf yn gweld y tîm arbenigol?
Byddwch angen cael eich gweld yn y clinig i gleifion allanol bob pythefnos. Bydd hyn ychydig ddiwrnodiau cyn pob triniaeth gyda nivolumab. Ym mhob clinig i gleifion allanol, bydd y tîm meddygol sy’n rhagnodi eich nivolumab yn gwirio sut hwyl sydd arnoch, ac yn trafod unrhyw broblemau a allai fod gennych.
Byddwch yn cael profion gwaed rheolaidd a byddwn yn gwirio sut hwyl sydd arnoch ac yn trafod unrhyw broblemau a allai fod gennych. Mae hyn fel y gallwn weld sut mae’r driniaeth yn effeithio arnoch chi. Os byddwn yn hapus gyda’ch canlyniadau gwaed, bydd eich cemotherapi yn cael ei ragnodi.
Sut mae nivolumab yn cael ei roi?
Mae nivolumab yn cael ei roi trwy ddrip i mewn i wythïen yng nghefn eich llaw neu fraich.
Ble fydd fy nhriniaeth yn cael ei rhoi?
Bydd y triniaethau yn cael eu rhoi yn yr ardaloedd trin achosion dydd yn Felindre.
Pa mor hir fyddaf yn yr ysbyty?
Mae triniaeth Nivolumab yn cael ei rhoi dros awr; fodd bynnag, gadewch oddeutu dwy awr ar gyfer eich apwyntiad. Mae croeso i chi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae lle’n brin yn yr ardaloedd aros ac yn yr ystafell driniaeth, felly nid oes lle fel arfer ar gyfer mwy nag un unigolyn. Nid yw ardaloedd triniaeth yn addas ar gyfer plant bach.
Adweithiau yn ystod triniaeth
Os ydych yn dioddef unrhyw un o’r canlynol yn ystod y driniaeth, dywedwch wrth eich nyrs ar unwaith:
Os ydych yn dioddef unrhyw un o’r rhain, byddwn yn arafu neu yn stopio’r driniaeth hyd nes i chi deimlo’n well. Gall y driniaeth ddechrau eto wedyn, fel arfer heb unrhyw broblemau pellach.
Beth yw’r sgîl-effeithiau posibl?
Mae rhai pobl yn goddef ychydig iawn o sgîl-effeithiau, ond gallai eraill gael mwy. Mae'r rhan fwyaf o'r sgîl-effeithiau yn digwydd oherwydd bod Nivolumab yn effeithio ar y system imiwnedd ac yn achosi llid mewn rhannau eraill o'r corff, fel y croen, y coluddion a’r chwarennau sy'n cynhyrchu hormonau. Gellir rheoli y rhan fwyaf, os nad y cyfan o’r sgîl-effeithiau difrifol drwy ddefnyddio meddyginiaeth steroid ar unwaith, naill ai fel tabledi neu drwy ddrip. Mae’n bosibl y bydd yn rhaid mynd i’r ysbyty fodd bynnag, mewn achosion o adweithiau difrifol sy’n ymwneud ag imiwnedd.
Y rhan fwyaf o’r amser, mae sgîl-effeithiau yn ysgafn ac yn gallu cael eu rheoli'n hawdd yn y cartref. Ond os oes gennych sgîl-effeithiau mwy difrifol, mae’n bwysig eich bod yn cysylltu â Chanolfan Ganser Felindre. Mae'r rhif ffôn ar dudalen 10. Mae manylion pellach ynghylch pryd i gysylltu â Felindre yn cael eu cynnwys yn y sgîl-effeithiau unigol a restrir isod.
Os ydych yn cael eich anfon i ysbyty arall, rhaid i chi roi gwybod i'r meddygon a'r nyrsys eich bod yn cymryd Nivolumab. Mae'n bosibl eich bod yn cael adwaith a gynhyrchir gan system imiwnedd y corff, ac y dylech ddechrau cymryd steroidau. Mae angen i'r meddygon a'r nyrsys gysylltu â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Gallant naill ai ffonio’r peiriant galw cemotherapi neu siarad â'ch oncolegydd.
Effeithiau ar eich perfedd
Gall y driniaeth hon achosi naill ai rhwymedd neu ddolur rhydd.
Sylwer:
Os oes gennych unrhyw un o'r symptomau isod, rhaid i chi roi gwybod i Ganolfan Ganser Felindre ar unwaith. Mae'r rhifau ffôn ar dudalen 10.
Mae’n bosibl y gallai nifer fach o gleifion fod mewn perygl o ddioddef o glefyd llid y coluddyn (colitis) neu dwll yn wall y coluddyn (perforation).
Effeithiau ar y croen
Efallai y byddwch yn datblygu brech goslyd ar y croen, y gellir ei thrin gyda hufen lleithio. Efallai y byddwch yn cael ceg ddolurus; os bydd hyn yn digwydd, gallwn argymell cegolchion i chi. Fodd bynnag, os byddwch yn cael adwaith difrifol ar y croen, efallai y bydd angen i chi gael eich trin yn yr ysbyty.
Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre yn yr amgylchiadau canlynol:
Effeithiau ar eich chwarennau sy’n cynhyrchu hormonau
Gall Nivolumab achosi llid ar y chwarennau sy'n cynhyrchu gwahanol hormonau (cemegau sy'n rheoli llawer o swyddogaethau'r corff) yn y corff. Bydd symptomau'n amrywio yn ôl y chwarennau sydd yn cael eu heffeithio.
Mae’n bwysig cysylltu â Chanolfan Ganser Felindre os ydych yn dioddef o’r canlynol:
Effeithiau ar yr afu
Mae hyn yn anghyffredin, ond os ydych yn cael eich effeithio, efallai y byddwch yn teimlo'n fwy blinedig na'r arfer ac efallai y byddwch yn teimlo'n sâl neu'n chwydu hefyd. Bydd eich meddyg yn rhoi meddyginiaeth wrthgyfog i chi.
Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre yn yr amgylchiadau canlynol:
Nid yw effeithiau mwy difrifol ar yr afu yn gyffredin iawn, ond gallant fod yn ddifrifol iawn, felly dylech gysylltu â Chanolfan Ganser Felindre yn yr amgylchiadau canlynol:
Blinder a lludded
Gall nivolumab wneud i chi deimlo’n fwy blinedig na’r arfer. Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os bydd angen i chi wneud hynny, ond dylech barhau â’ch gweithgareddau arferol os ydych yn teimlo eich bod yn gallu gwneud hynny. I rai pobl, gall ychydig o ymarfer corff ysgafn fod yn fuddiol yn ogystal â gorffwys. Os ydych yn cysgu mwy na hanner y diwrnod yn ystod y dydd, dylech gysylltu â Chanolfan Ganser Felindre ar y rhif ar dudalen 10.
Colli archwaeth am fwyd
Mae’n bosibl y byddwch yn colli’ch archwaeth am fwyd, a gall rhai pobl deimlo'n sâl wrth gymryd nivolumab, ond gall hyn fel arfer gael ei reoli'n dda gyda meddyginiaeth wrthgyfog. Os ydych yn sâl fwy nag unwaith mewn 24 awr er gwaethaf cymryd meddyginiaeth wrthgyfog yn rheolaidd, dylech roi'r gorau i gymryd eich tabledi nivolumab a chysylltu â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae'r rhif ffôn ar dudalen 10.
Effeithiau ar eich nerfau
Efallai y byddwch yn teimlo fferdod neu binnau bach yn eich dwylo neu eich traed.
Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre yn yr amgylchiadau canlynol:
Myalgia (poen yn y cyhyrau)
Bydd rhai cleifion yn cael myalgia, sef poen yn eu cyhyrau neu eu cymalau. Os oes gennych chi dabledi lladd poen adref yn barod, efallai y byddant yn helpu i leddfu’r boen. Os na fydd hyn yn gweithio, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.
Heintiau
Bydd eich risg o ddal heintiau’n uwch gan y gallai’r driniaeth hon leihau eich celloedd gwaed gwyn sy’n helpu i drechu heintiau. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw symptomau haint, er enghraifft, symptomau sy’n debyg i’r ffliw neu dymheredd sy’n uwch na 37.5°. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.
Colli gwallt
Ni ddylai Nivolumab wneud i chi golli eich gwallt. Fodd bynnag, gall wneud i wallt rhai pobl deneuo. Mae gennym daflen sy'n dweud mwy wrthych am ymdopi â cholli gwallt. Gofynnwch i'ch nyrs os hoffech gopi.
Sgîl-effeithiau eraill:
Mae’n bosibl y byddwch yn dioddef o’r sgîl-effeithiau ychwanegol hyn - os felly, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre:
Gwybodaeth arall
Mae’n bwysig nad ydych yn beichiogi, yn bwydo o’r fron nac yn dod yn dad tra’ch bod yn cael triniaeth ac am o leiaf blwyddyn ar ôl triniaeth.
Mae sgîl-effeithiau yn gallu parhau am hyd at chwe mis ar ôl y driniaeth. Os oes gennych unrhyw sgîl-effeithiau, cysylltwch â'ch meddyg ymgynghorol.
Taflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr
Mae taflenni Felindre yn rhoi gwybodaeth am sgîl-effeithiau cyffredin a chyffredin iawn: os hoffech ragor o wybodaeth am y sgîl-effeithiau llai cyffredin, cyfeiriwch at y taflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr, sydd ar gael o fferyllfa Felindre, ac/neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk. Fodd bynnag, weithiau, efallai y bydd cleifion yn meddwl bod y taflenni hyn yn anodd eu darllen. Os hoffech gopi, gofynnwch i'ch meddyg neu yn fferyllfa Felindre.
Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Mae’r daflen wedi cael ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.
Rhifau ffôn cyswllt
Canolfan Ganser Felindre 029 2061 5888
Os ydych yn sâl adref at angen sylw brys ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos, gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi.
Fferyllfa 029 2061 5888 est 6223
Dydd Llun – ddydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau.
Llinell gymorth canser 0808 808 1010
Tenovus - am ddim
7 diwrnod yr wythnos 8am – 8pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch canser.
Paratowyd Ionawr 2016