Taflen wybodaeth ynghylch EC-T.
Mae'r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs o gemotherapi o'r enw EC-T. Bydd y daflen yn egluro beth yw hyn a phryd a sut mae’n cael ei roi. Bydd yn dweud wrthych am y sgil-effeithiau cyffredin y gallech eu profi hefyd. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am EC-T ar gael ar ddiwedd y daflen.
Dylai’r daflen hon gael ei darllen ochr yn ochr â’r daflen '‘General information for patients receiving chemotherapy’ Os nad ydych chi wedi cael y daflen hon, gofynnwch i'ch nyrs am gopi.
Beth yw cemotherapi EC-T?
Mae cemotherapi EC-T yn cynnwys 2 driniaeth wahanol. Gelwir y driniaeth gyntaf yn EC, ac mae'n cynnwys 2 gyffur:
Mae hyn yn cael ei ddilyn gan gyffur o'r enw Taxotere (gelwir hyn yn docetaxel hefyd). Gyda'i gilydd, gelwir y ddwy driniaeth hyn yn EC-T.
Pam ydw i'n cael cemotherapi EC-T?
Mae eich meddyg wedi rhagnodi'r cemotherapi hwn oherwydd canfuwyd ei fod yn arbennig o effeithiol wrth drin eich math o ganser.
Pa mor aml y byddaf yn cael fy nghemotherapi EC-T?
Er mwyn i'r driniaeth hon gael yr effaith fwyaf, mae’n cael ei rhoi ar gyfnodau amser penodol. Mae’r rhain yn cael eu hadnabod fel cylchoedd. Mae'n arferol cael 3 chylch o EC ac yna, 3 chylch o Taxotere. Bydd eich meddyg yn trafod union nifer y cylchoedd y byddwch chi’n eu cael gyda chi.
Pa mor aml y byddaf yn gweld y tîm arbenigol?
Byddwch chi’n gweld y tîm arbenigol cyn pob cylch. Byddwch yn cael profion gwaed rheolaidd a byddwn yn gofyn sut rydych chi’n teimlo ac yn trafod unrhyw broblemau sydd gennych. Y rheswm am hyn yw er mwyn inni wirio sut mae'r cemotherapi yn effeithio arnoch chi. Os bydd eich canlyniadau gwaed yn foddhaol, bydd eich cemotherapi yn cael ei ragnodi.
Sut fydd fy nghemotherapi yn cael ei roi?
Bydd y cemotherapi yn cael ei roi trwy ddrip sydd wedi'i gysylltu â nodwydd fach sy’n cael ei gosod yn eich llaw neu’ch braich. Fel arall, efallai yr awgrymir bod tiwb mân o'r enw llinell PICC yn cael ei osod mewn un o'r gwythiennau mawr yn rhan uchaf eich braich. Gall y llinell hon aros yn ei lle ar gyfer eich triniaeth gyfan. Bydd eich meddyg neu eich nyrs yn esbonio hyn yn fwy manwl.
Mae gennyn ni daflen sy'n dweud mwy wrthych am linellau PICC. Gofynnwch os hoffech chi gael copi
Pa mor hir y byddaf yn yr ysbyty?
Bydd eich apwyntiad cemotherapi fel arfer ar ddiwrnod gwahanol i'ch apwyntiad yn y clinig. Bydd y driniaeth cemotherapi yn cymryd tuag awr. Dylech ganiatáu 30 munud yn ychwanegol ar gyfer eich triniaeth gyntaf.
Os ydych yn byw ymhell i ffwrdd, efallai y bydd eich cemotherapi yn cael ei drefnu ar gyfer yr un diwrnod â'ch apwyntiad clinig. Mae oedi bob amser rhwng gweld y meddyg a chael eich cemotherapi. Os yw eich cemotherapi ar yr un diwrnod â'ch apwyntiad clinig, dylech ddisgwyl bod yn yr ysbyty am rhwng pedair a chwe awr.
A gaf i ddod â pherthnasau a ffrindiau gyda mi?
Ar hyn o bryd, oherwydd yr angen i gadw pellter o 2m rhwng cleifion yn ystod COVID-19, nid ydym fel arfer yn caniatáu i unrhyw un aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Os oes gennych unrhyw bryderon am hyn, siaradwch â'ch tîm cyn i'ch triniaeth ddechrau. Efallai y gallwn wneud rhai eithriadau ond bydd angen inni fod yn ymwybodol o hyn cyn diwrnod y driniaeth.
Beth yw'r sgil-effeithiau posibl?
Mae nifer o sgil-effeithiau posibl a allai ddigwydd gyda'r cemotherapi hwn. Gall y meddygon, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor ichi neu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Bydd y triniaethau EC a Taxotere yn cyflwyno rhai sgîl-effeithiau sydd yr un fath a rhai sy'n benodol i'r rhan honno o'r driniaeth.
Sgîl-effeithiau ar gyfer EC a Taxotere
Colli gwallt
Yn anffodus, fe fyddwch chi’n colli’ch gwallt gyda'r cemotherapi hwn. Bydd eich gwallt yn tyfu'n ôl pan fydd eich triniaeth wedi dod i ben. Weithiau mae modd defnyddio dull o’r enw 'oeri croen y pen' neu 'gap oer' i atal colli gwallt. Os hoffech chi gael wig, mae rhagor o wybodaeth yn y daflen ar ymdopi â cholli gwallt. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am oeri croen y pen neu wigiau, siaradwch â'ch nyrs.
Mae gennyn ni daflen sy'n dweud mwy wrthoch chi am ymdopi â cholli gwallt. Gofynnwch i'ch nyrs os hoffech chi gael copi.
Cyfogi
Mae cyfog a chwydu yn anghyffredin y dyddiau hyn, gan ein bod ni’n rhoi meddyginiaethau gwrthgyfog ichi, sydd fel arfer yn hynod effeithiol. Os byddwch chi’n cyfogi fwy nag unwaith mewn 24 awr er eich bod chi’n cymryd meddyginiaeth gwrthgyfog yn rheolaidd pan fyddwch chi gartref ar ôl eich triniaeth cemotherapi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre i gael cyngor. Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.
Haint
Rydych mewn mwy o berygl o gael heintiau oherwydd gall eich celloedd gwaed gwyn, sy'n helpu i ymladd heintiau, gael eu lleihau gan y driniaeth hon.
Os byddwch yn datblygu haint tra bydd eich celloedd gwaed gwyn yn isel, rydych mewn perygl o gael sepsis; gall hyn beryglu bywyd.
Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft symptomau tebyg i ffliw neu dymheredd sy’n uwch na 37.5° canradd neu’n is na 35.5°. Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.
Dolur rhydd
Nid yw dolur rhydd yn gyffredin gyda'r cemotherapi hwn. Ond os byddwch chi’n ysgarthu bedair neu fwy o weithiau mewn 24 awr yn fwy na'r hyn sy'n arferol ichi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith. Mae’r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.
Blinder a lludded
Gall cemotherapi wneud ichi deimlo'n fwy blinedig nag arfer. Mae'n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os oes angen, ond dylech gyflawni eich gweithgareddau arferol os ydych yn teimlo'n abl. Mae rhai pobl yn ei chael yn fuddiol gwneud ymarfer corff ysgafn yn ogystal â gorffwys
Ceg ddolurus
Efallai y bydd eich ceg yn mynd yn ddolurus neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach. Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen cemotherapi gyffredinol. Efallai y bydd eich meddyg yn rhagnodi cegolch neu feddyginiaeth i atal neu glirio unrhyw haint.
Niwed i'r croen a’r feinwe
Gall rhai cyffuriau cemotherapi niweidio'r croen a'r ardal gyfagos os byddan nhw’n gollwng y tu allan i'ch gwythïen. Yr enw ar hyn yw elifiad. Mae'n eithriadol o brin, ond mae'n bwysig eich bod yn dweud wrthon ni ar unwaith os byddwch chi’n sylwi ar unrhyw chwyddo, poen neu losgi yn y fan lle mae’r drip wedi’i osod. Os bydd hyn yn digwydd tra bo’r cemotherapi yn cael ei roi, dywedwch wrth eich nyrs. Os byddwch chi’n sylwi ar boen, chwyddo neu gochni pan fyddwch chi gartref, cysylltwch â ni ar unwaith. Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.
Clotiau gwaed
Mae cael eich diagnosio gyda chanser yn gallu cynyddu eich risg o ddatblygu clot gwaed (thrombosis), ac mae triniaeth canser yn gallu cynyddu'r risg hwn ymhellach. Mae'n bwysig dweud wrth eich meddyg ar unwaith os oes gennych symptomau fel poen, cochni a chwydd yn eich coes, neu os ydych yn dioddef o ddiffyg anadl a phoen yn eich brest.
Mae clotiau gwaed yn gallu bod yn ddifrifol iawn. Fodd bynnag, fel arfer, gellir trin y rhan fwyaf o glotiau'n llwyddiannus gyda chyffuriau i deneuo'r gwaed. Gall eich meddyg neu eich nyrs roi mwy o wybodaeth i chi.
Sgil-effeithiau eraill
Weithiau, mae menywod yn gweld bod triniaeth cemotherapi yn effeithio ar eu mislif. Gall y mislif fynd yn drymach, yn ysgafnach neu hyd yn oed stopio’n gyfan gwbl.
Mae'n bwysig nad ydych chi’n beichiogi nac yn cenhedlu plentyn fel tad tra byddwch chi’n cael triniaeth cemotherapi, gan y gallai cemotherapi niweidio'r babi heb ei eni.
Gall EC-T gynyddu sensitifrwydd eich croen i'r haul. Mae'n well osgoi heulwen gryf, gwisgo het a defnyddio eli atal haul.
Sgîl-effeithiau gyda EC
Gall epirubicin achosi rhai problemau gyda'r galon. Os oes gennych chi gyflwr ar y galon neu os ydych chi’n cymryd unrhyw feddyginiaeth i’r galon, dywedwch wrth eich meddyg cyn ichi ddechrau cemotherapi.
Bydd epirubicin yn rhoi lliw coch ar eich wrin yn ddiniwed am ddiwrnod ar ôl eich cemotherapi. Os bydd hyn yn para mwy na 24 awr, cysylltwch â'ch meddyg neu nyrs.
Sgîl-effeithiau gyda Taxotere
Byddwn ni’n rhoi tabledi steroid o'r enw dexamethasone ichi. Rhaid i chi eu cymryd am dri diwrnod, gan ddechrau ar y diwrnod cyn eich cemotherapi Taxotere. Dylen nhw gael eu cymryd gyda bwyd, ar ôl brecwast a chinio.
Mae'r tabledi dexamethasone yn atal rhai o sgîl-effeithiau cemotherapi Taxotere. Mae'n bwysig iawn eich bod yn cymryd y tabledi yn unol â'r cyfarwyddiadau.
Cadw hylif
Mae'n bosibl y byddwch chi'n gweld eich bod chi’n cadw hylif, sy’n gallu arwain at chwyddo yn eich pigyrnau a'ch coesau. Yn anaml, gall hyn arwain at ddiffyg anadl oherwydd hylif ar yr ysgyfaint. Mae'r tabledi steroid fel arfer yn atal hyn. Os bydd hyn yn digwydd, mae'n ysgafn fel arfer, a bydd yn gwrth-droi unwaith y bydd eich triniaeth wedi'i chwblhau. Dywedwch wrth eich meddyg neu’ch nyrs os yw hyn yn broblem.
Myalgia (poen yn y cyhyrau)
Gall rhai cleifion brofi myalgia, sef poen yn y cyhyrau neu'r cymalau. Gall hyn fod yn ddifrifol weithiau ond dim ond am ychydig ddyddiau y bydd yn para. Os oes gennych chi boenladdwyr gartref yn barod, efallai y byddwch chi'n gweld bod y rhain yn lleddfu'r boen. Os nad yw hyn yn gweithio, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre. Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.
Adweithiau o fath alergaidd
Mae nifer fach o gleifion yn cael adwaith tebyg i alergedd i Taxotere. Mae'r tabledi steroid fel arfer yn atal hyn rhag digwydd. Os bydd yn digwydd, fel arfer mae'n digwydd tra bod y drip yn trwytho. Mae'r symptomau'n cynnwys teimlo'n boeth a gwridog, yn cosi, yn benysgafn neu'n sâl yn gyffredinol. Mae modd trin hyn yn hawdd. Dywedwch wrth eich nyrs ar unwaith os byddwch chi'n profi unrhyw un neu ragor o'r symptomau hyn.
Efallai y byddwch chi'n gweld afliwio a rhychau ar ewinedd eich bysedd ac ewinedd eich traed. Gall ychydig o gleifion golli eu hewinedd dros dro.
Efallai y bydd eich dwylo a'ch traed yn mynd yn sych ac yn pilio. Fel arfer, gellir rheoli hyn trwy ddefnyddio lleithydd heb bersawr.
Yn anaml iawn, mae'r cemotherapi hwn yn effeithio ar y nerfau i'ch dwylo a'ch traed. Mae hyn yn arwain at golli teimlad neu newid teimlad fel 'pinnau bach'. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y symptomau'n gwella o fewn ychydig fisoedd ar ôl gorffen eich triniaeth.
Weithiau, gall cyffuriau canser gael sgil-effeithiau difrifol iawn, sy'n gallu peryglu bywyd mewn achosion prin. Mae'n bwysig rhoi gwybod i Ganolfan Ganser Felindre os ydych chi’n pryderu am unrhyw sgil-effeithiau.
Taflenni gwybodaeth gwneuthurwyr i gleifion
Mae taflenni Felindre yn darparu gwybodaeth am sgil-effeithiau cyffredin iawn a rhai yr adroddir arnynt yn gyffredin (ni allwn restru'r holl sgil-effeithiau cyffredin). I gael rhagor o wybodaeth am y rhain a'r sgil-effeithiau llai cyffredin, cyfeiriwch at daflenni gwybodaeth gwneuthurwyr i gleifion, a geir gan fferyllfa Felindre a/neu ar y we yn www.medicines.org.uk. Weithiau, bydd cleifion yn ei chael hi’n anodd darllen y taflenni hyn. Gofynnwch os hoffech gael copi gan eich meddyg neu gan fferyllfa Felindre.
Rhifau Ffôn Cyswllt
Canolfan Ganser Felindre 029 2061 5888
Gofynnwch am y llinell gymorth triniaeth os ydych chi’n sâl gartref ac angen cyngor ar unwaith ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos. Er enghraifft, dylech ffonio os fyddwch chi:
Adran fferylliaeth 029 2061 5888 est 6223
Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau
Llinell gymorth canser
rhadffôn Tenovus 0808 808 1010
Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae'r wybodaeth yn y daflen hon yn seiliedig ar dystiolaeth. Fe'i cymeradwywyd gan feddygon, nyrsys a chleifion. Mae'n cael ei hadolygu a'i diweddaru bob dwy flynedd.
Adolygwyd Rhagfyr 2022