Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn gweithio'n agos gyda chwmnïau masnachol i gymryd rhan mewn ymchwil foesegol o ansawdd uchel a ariennir, sydd yn cael ei chynnal i safonau ansawdd rhyngwladol cydnabyddedig.
Mae treialon clinigol a syniadau ymchwil newydd sydd yn cael eu datblygu gan y sector masnachol yn chwarae rhan bwysig o ran cadw'r GIG ar flaen y gad o ran triniaethau modern ac ymchwil. Mae ymchwil fasnachol yn cynnig mynediad cynnar i glinigwyr a chleifion i'r technolegau diweddaraf ar gyfer diagnosio a thrin clefydau, ac mae'n hanfodol ar gyfer datblygu meddyginiaethau, triniaethau a thechnolegau gofal iechyd newydd.
Os ydych chi’n ystyried cymryd rhan mewn prosiect ymchwil gydag Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, cysylltwch â'r swyddfa Ymchwil, Datblygu ac Arloesi.
E-bost / E-mail: Velindre.R&DOffice@wales.nhs.uk
Ffôn/Tel: 02920 615888 (est 4442)
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru hefyd yn darparu nifer o wasanaethau i gefnogi cynnydd gwaith ymchwil masnachol yn y GIG yng Nghymru, gan gynnwys:
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y gwasanaethau y mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn eu darparu ar eu gwefan.