Heb ymchwil, ni fyddai llawer o'r triniaethau a'r mathau o ofal rydym yn eu derbyn yn rheolaidd yn y GIG heddiw ar gael.
Mae ymchwil o ansawdd uchel ond yn bosibl gyda chefnogaeth aelodau'r cyhoedd. Heb i bobl gytuno i gymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil, ni fuasem yn gweld gwelliannau mewn triniaethau a gofal.
Mae llawer o ffyrdd y gall pobl gymryd rhan mewn ymchwil, gan gynnwys:
Mae ymchwil yn rhan arferol o driniaeth a gofal yn y GIG yng Nghymru. Gallwch ddarganfod pam ei bod yn bwysig, sut i gymryd rhan, beth yw'r manteision a beth sydd ynghlwm ar gyfer pobl sydd yn cymryd rhan ar wefan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Cynnwys y cyhoedd yw pan fydd aelodau'r cyhoedd yn rhannu eu hamser a'u profiadau personol i helpu i benderfynu pa ymchwil sy'n digwydd, a sut mae'n digwydd. Maen nhw’n yn gweithio gydag ymchwilwyr i gynllunio, rheoli a chynnal ymchwil.
Gall gynnwys:
I gael mwy o wybodaeth am y gymuned cynnwys y cyhoedd a sut i ymuno, ewch i ‘r dudalen Beth ydy cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil?
Mae Panel Cynnwys ac Ymgysylltu'r Cyhoedd Gwasanaeth Gwaed Cymru yn ymgysylltu ag aelodau o'r cyhoedd yng Nghymru wrth lunio mentrau gofal iechyd ac ymchwil. Gwahoddir aelodau'r panel i roi adborth ac awgrymiadau ar amrywiaeth o weithgareddau a chynlluniau.
Gwneir cyfraniadau fel arfer drwy arolygon ar-lein, adolygu deunyddiau neu gymryd rhan mewn gweithdai rhithwir, gan sicrhau bod safbwyntiau cyhoeddus yn cael eu hintegreiddio yn ein cynllunio gofal iechyd ac ymchwil.
Am fwy o wybodaeth neu i ddysgu sut y gall Panel Cynnwys ac Ymgysylltu â'r Cyhoedd Gwasanaeth Gwaed Cymru gefnogi menter, cysylltwch â'r tîm yn WBS. Involve@wales.nhs.uk.
Mae gwefan Cancer Research UK yn darparu llawer o wybodaeth am dreialon clinigol gan gynnwys:
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan Cancer Research UK.
Mae Be Part of Research yn wasanaeth ar-lein sydd yn esbonio beth allai ei olygu i gymryd rhan mewn ymchwil, a pha ymchwil sydd yn digwydd ar hyn o bryd yng Nghymru a'r DU.
I ddarganfod mwy, ewch i Be Part of Research.
Gallwch ymuno ag astudiaeth Doeth Am Iechyd Cymru os ydych chi’n 16 oed neu'n hŷn ac yn byw yng Nghymru, gwahoddir pawb i ymuno!
Mae Doeth Am Iechyd Cymru yn astudiaeth ymchwil sy'n anelu at ddatblygu triniaethau gwell a rheoli cyflyrau iechyd hirdymor fel clefyd y galon, dementia, diabetes, iechyd meddwl a chanser. P'un a ydych chi'n ifanc neu'n hen, yn ffit neu'n sâl, trwy gofrestru ar-lein, gofynnir i chi ateb cwestiynau syml am eich iechyd a'ch ffordd o fyw bob chwe mis. Bydd yr wybodaeth a roddwch yn helpu'r GIG yng Nghymru i gynllunio ar gyfer y dyfodol, a bydd yn diogelu iechyd y genedl. Dyma'ch cyfle i fod yn rhan o lunio iechyd a lles cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru.
Bydd ateb cwestiynau syml am eich iechyd a'ch ffordd o fyw yn helpu i ddiogelu eich iechyd chi a'ch ffrindiau, eich teulu a chenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru.