Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad Blynyddol y Gymraeg 2022-23

Cydymffurfio a Hyrwyddo ar draws yr Ymddiriedolaeth 

 

Cyflwyniad 

Hwn fydd pedwerydd adroddiad blynyddol yr Ymddiriedolaeth, sy'n ymroddedig i gyflwyno, hyrwyddo a monitro Safonau'r Gymraeg.  Mae ffocws yr Ymddiriedolaeth wedi'i wreiddio'n gryf mewn hyrwyddo'r Gymraeg yn ddiwylliannol ac fel rhan o hyn, rydym wedi ymrwymo i gydymffurfio â gofynion cyfreithiol yr iaith fel darparwr gwasanaethau i Gleifion a Rhoddwyr. 

Mae ein darpariaeth o Safonau'r Gymraeg a'r fframwaith 'Mwy na Geiriau...’ yn parhau i fod yr hyn sy’n ein gwthio ni i barhau i sicrhau ein bod ni’n cydymffurfio ac erbyn hyn, mae gennym brosesau llywodraethu cryf i fonitro ein perfformiad.   

Y llynedd, roedd ein ffocws yn ymwneud yn fawr â'r ymrwymiad i strwythurau recriwtio, ac ymgorffori ethos o ddealltwriaeth diwylliannol ac eleni, rydym yn parhau i dynnu sylw at hyn.  Mae deall anghenion iaith ein gweithlu wedi arwain at ddefnyddio mesurau syml ond effeithiol i hyrwyddo ein gwasanaethau, ac mae wedi agor trafodaethau gyda chleifion ynghylch y cysyniad 'cynnig gweithredol'.   

Ein huchelgais yw sicrhau bod ein cleifion a'n rhoddwyr yn ymwybodol o'u hawliau Cymraeg, a bod ein hymateb i hyn yn dod hyd yn oed yn fwy rhagweithiol, a darparu gwasanaethau dwyieithog yn ôl yr arfer, wrth gwrs, yn hytrach na thrwy gais, yw ein nod yn y pen draw.   

A portrait photo of Steve Ham, Chief Executive Officer of Velindre University NHS Trust. - Steve Ham,
Prif Swyddog Gweithredol

 

 

 

 

Cipolwg o’r Uchafbwyntiau  

A noticeboard with Welsh language material.

  • I gefnogi ei weithgor, mae Gwasanaeth Gwaed Cymru wedi datblygu tudalen benodol ar y fewnrwyd, sy'n cefnogi gwaith yr Ymddiriedolaeth.  Mae gan y gwasanaeth ei ofynion penodol ei hun, ac roedd yn teimlo bod angen cefnogi staff yn weledol, yn ogystal â defnyddio arweiniad ar draws yr Ymddiriedolaeth.  Mae hyn wedi cryfhau dealltwriaeth yr adran, ac yn galluogi staff i weld pa mor berthnasol yw eu gwaith mewn perthynas â hyrwyddo a chefnogi anghenion rhoddwyr dwyieithog.

  • ae Canolfan Ganser Felindre wedi cynyddu presenoldeb ei 'Chynnig Gweithredol'.  Mae rhywbeth syml, sy’n weladwy, wedi rhoi cyfle i gleifion eirioli eu hanghenion iaith. 

  • Mae staff wedi rhoi gwybod am gleifion sydd yn nodi eu bod yn siaradwyr Cymraeg fel rhan o'r broses ofal, ac mae hyn wedi sicrhau gwasanaeth dwyieithog wedi’i deilwra mewn perthynas â’u llwybr gofal. 

  • Mae’r gwasanaeth cyfieithu wedi derbyn mwy o fuddsoddiad eto eleni, ac mae hyn yn golygu bod yr Ymddiriedolaeth yn parhau i gefnogi cleifion a rhoddwyr sydd angen gwasanaethau Cymraeg. 

  • Mae gweithio mewn partneriaeth â Rheolwyr eraill y Gymraeg yn rhoi cyfle i rannu arfer gorau a dechrau datblygu system TG a rennir.  


 

Cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg 

 

Strwythur llywodraethu  

Rydym yn parhau i weithio gyda'n hadrannau i ddarparu gwasanaeth lleol mewn perthynas â datblygu'r Safonau.  Mae'r grwpiau is-adrannol yn adrodd yn aml i grŵp Cymraeg yr Ymddiriedolaeth gyfan, ac mae gwybodaeth yn cael ei bwydo'n uniongyrchol i'r tîm Gweithredol ac i Fwrdd yr Ymddiriedolaeth. 

Mae wedi profi i fod yn ffordd lwyddiannus dros ben o sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu, ac mae’n rhoi gwybod i’r Bwrdd am unrhyw newidiadau rheoliadol sydd angen eu trafod ar lefel Bwrdd. 

Mae Pencampwr y Gymraeg ein Bwrdd yn parhau i gefnogi a herio ein cydymffurfiaeth â’r Iaith Gymraeg. 

Mae'r Ymddiriedolaeth yn lletya Technoleg Iechyd Cymru a Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, ac mae'r ddau ohonynt yn gweithio'n ddiwyd i gefnogi’r gwaith o ddatblygu safonau'r Gymraeg.   

 

Hyfforddiant 

Mae'r Ymddiriedolaeth yn parhau i hyrwyddo hyfforddiant yn y Gymraeg ar-lein ac yn y flwyddyn adrodd hon, mae wyth aelod o staff wedi cwblhau Rhan 1 o’r cwrs.  Fe wnaethom sicrhau ein hail gwrs Cymraeg Sylfaen hefyd ar gyfer staff ond yn anffodus, nid oedd aelodau'r rheng flaen a nodwyd yn gallu cwblhau'r cwrs.   

Rydym yn adolygu ein dull o hyfforddi, a byddwn yn cynnal sesiynau ymwybyddiaeth penodol ar gyfer staff o fis Mai 2023 ymlaen, ac yn blaenoriaethu staff sy'n ateb y ffôn yn unol â gofynion Safonau'r Gymraeg. 

Mae'r staff wedi bod yn mynychu cwrs hyder yn y Gymraeg hefyd, sydd yn cael ei redeg gan  AaGIC, a byddant yn cael cynnig y cyfle hwn eto yn dilyn ymateb cadarnhaol.  Mae dulliau partneriaeth â'r cwrs hwn wedi profi'n hynod gadarnhaol. 

Mae’r cwrs ymwybyddiaeth Gymraeg newydd ar-lein, o’r enw  'Mwy na Geiriau...' wedi cael ei groesawu gan yr Ymddiriedolaeth, ac mae'r staff wedi rhoi adborth cadarnhaol i’r cwrs.   

Ers ei gyflwyno ym mis Rhagfyr 2023, rydym yn gallu dangos agwedd gadarnhaol tuag at gydymffurfio.

Ymwybyddiaeth o'r Gymraeg – Mwy na Geiriau 

Erbyn Chwefror 2023 % o staff 

Corfforaethol  50%
Ymchwil, Datblygu ac Arloesi   55.1%
Trawsnewid Gwasanaethau Canser  44.44%
Canolfan Ganser Felindre  40.72%
Gwasanaeth Gwaed Cymru  70.48%
Sefydliadau Felindre  50.85%

Mae cofnodi lefelau parhaus ein staff ar y system ESR yn sicrhau bod cynllunio'r gweithlu yn ystyried anghenion iaith ein gwasanaethau.  Ar hyn o bryd, mae dros 86% o'r gweithlu yn cwblhau'r maes cymhwysedd o fewn y system ESR.

Enw’r Cymhwysedd 

Cyfrif Aseiniadau 

Gofynnol 

Wedi’i gyflawni 

Cydymffurfiaeth % 

GIG|IAITH|Gwrando/siarad Cymraeg|  1571 1571 1378

87.71%

GIG|IAITH|Darllen Cymraeg|  1571 1571 1367

87.01%

GIG|IAITH|Ymwybyddiaeth o'r Gymraeg - 3 blynedd|  1571 1571 803

51.11%

GIG|IAITH|Ysgrifennu Cymraeg|  1571 1571 1363

86.76%

 

Cynllunio’r Gweithlu 

Rydym yn parhau i weithio'n ddyfal i sicrhau bod yr Ymddiriedolaeth gyfan yn cydymffurfio â safonau'r Gymraeg, wrth hyrwyddo ac annog ethos 'Mwy na Geiriau...' 

Mae ein strwythur Llywodraethu wedi'i wreiddio'n llwyddiannus, ac mae ein dogfen a ddefnyddir i fonitro cydymffurfiaeth yn dangos lefel cydymffurfio cryfach.  Fel Ymddiriedolaeth, rydym yn parhau i ddefnyddio hyn fel meincnod ar gyfer darparu ein gwasanaethau Cymraeg.  

Fel rhan o'r gweithgaredd Cyflenwi a Siapio, mae gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd i gasglu asesiad sylfaenol o'n gweithlu, a rhan o hyn yw asesu gallu cydweithwyr presennol i siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg. Bydd y gwaith yn ystyried sut mae ein gweithlu'n adlewyrchu cyfartaledd y boblogaeth leol hefyd, yn ogystal ag edrych ar lefelau gallu cydweithwyr yn y dyfodol (h.y. myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar gyrsiau a gomisiynir ar hyn o bryd).  Bydd hyn yn rhoi darlun o'r bwlch posibl sy'n ein hwynebu fel sefydliad.  

Drwy weithio gyda phartneriaid, byddwn wedyn yn gweithredu camau i leihau'r bwlch hwn, a bodloni ein gofynion fel y nodir yn y cynllun gweithredu 'Mwy na Geiriau'. 

 

Cyfieithu  

Mae ein cynnydd mewn buddsoddiad dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi golygu ein bod ni wedi gallu cynyddu ein gallu i gyfieithu.  Yn 2023-24, byddwn yn dîm o ddau gyfieithydd, ac yn defnyddio cytundeb lefel gwasanaeth gyda NWSSP. 

Yn 2019/20, roeddem yn cyfieithu bron i 380,000 o eiriau.  Yn 2022/23 rydym wedi cyfieithu ychydig dros 1,059,053.  Mae hyn yn gynnydd o tua 178% yn nifer y geiriau a gyfieithwyd mewn dwy flynedd. 

 

Swydd-ddisgrifiadau a recriwtio 

Mae cyfieithu wedi cefnogi'r amser mae'r Ymddiriedolaeth wedi'i roi i gryfhau ei hasesiad o anghenion iaith wrth recriwtio.  Mae cynllunio'r gweithlu yn hanfodol er mwyn sicrhau bod yr Ymddiriedolaeth yn cefnogi ei chleifion a'i rhoddwyr ac yn rhagweithiol gyda'i blaenoriaethau recriwtio. 

Eleni, rydym wedi canolbwyntio'n drwm ar sicrhau bod rheolwyr sy’n recriwtio yn ymwybodol o'r broses recriwtio mewn perthynas â’r Gymraeg, ac rydym wedi buddsoddi'n helaeth mewn strwythurau i gefnogi hyn.  Mae tîm y gweithlu ochr yn ochr ag adran y Gymraeg bellach wedi ymgorffori'r broses hon.   

Yn 2021-22, fe wnaeth y tîm cyfieithu gyfieithu 24 o swydd-ddisgrifiadau.  Ers buddsoddi mewn proses asesu recriwtio ar gyfer sgiliau iaith Gymraeg, mae hyn wedi cynyddu i 219 o swydd-ddisgrifiadau hyd at ddechrau mis Mawrth 2022-23.   

 

Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre 2022-2023 

Cyfanswm y swyddi gwag a hysbysebir fel

 
Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol  1
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol  157
Mae angen dysgu sgiliau Cymraeg pan maen nhw’n cael eu penodi i'r swydd  0
Nid yw sgiliau Cymraeg yn angenrheidiol  5

Cyfanswm y swyddi gwag wedi'u hysbysebu 01/04/2022 - 31/03/2023 

163

O'r data, gallwn gadarnhau mai'r un swydd a nodwyd yn hanfodol oedd swydd llinell flaen, lle mae angen cyfathrebu dros y ffôn.  Nid yw'r sgiliau angenrheidiol yn ymwneud â swyddi o fewn gwasanaeth labordy clinigol heb unrhyw gyswllt â chlaf neu roddwr.  

 

Rhwymedigaethau cytundebol yng Nghanolfan Ganser Felindre 

Mae integreiddio ein rhwymedigaethau dwyieithog ym mhopeth a wnawn yn hanfodol er mwyn 'normaleiddio'r' defnydd o'r iaith, a chael dealltwriaeth o'n hymrwymiad i ddatblygu a hyrwyddo Safonau’r Gymraeg.  O'r herwydd, wrth i ni gynllunio ein gwasanaethau, rydym wedi sicrhau bod ein rhwymedigaethau yn cael eu hamlygu ym mhopeth a wnawn.   

Yn y ganolfan ganser, mae adolygu cytundebau lefel gwasanaeth wedi ein hannog i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei hystyried gan ein cyflenwyr yn ogystal â'n gwasanaethau mewnol.  Mae hyn yn ffordd syml ond effeithiol o sicrhau ein bod yn cydymffurfio ac annog trafodaethau gyda darparwyr.  Mae'n tynnu sylw at ein disgwyliadau o'r darparwr, ac yn cefnogi trafodaeth na ystyriwyd o'r blaen: 

 

Rhwymedigaethau'r Gymraeg 

The Provider warrants and undertakes that it will not discharge its obligations under the Agreement in such a way as to render the Commissioner in breach of its obligations in respect of the Welsh language including, but not limited to, the Welsh Language Act 1993, the Government of Wales Act 1993, the Welsh Language (Wales) Measure 2011 and the Welsh Language Standards (No. 7) Regulations 2018.   

 

Ymgynghoriadau clinigol 

Mae ein cynllun ymgynghori clinigol wedi cael ei adolygu, ac mae strwythur ar gyfer asesu ei gamau gweithredu wedi cael ei roi ar waith eleni.  Mae'r cynllun yn tynnu sylw at y trafferthion o ddarparu ymgynghoriadau dwyieithog i gleifion a rhoddwyr, ond mae hefyd yn cydnabod yr angen i sicrhau dealltwriaeth glir o ba sgiliau sydd eu hangen, a ble.  Mae'r grwpiau adrannol wedi cael y cyfrifoldeb o fonitro'r cynllun gweithredu, a byddant yn hysbysu grŵp datblygu'r Ymddiriedolaeth o bryderon ac ati. 

Eleni, mae GGC wedi cynnal archwiliad o sgiliau fel y cam cyntaf mewn perthynas â gwybod lle mae sgiliau Cymraeg.  Bydd yr archwiliad hwn yn cefnogi’r broses nesaf mewn perthynas â deall sut y gallwn drosglwyddo'r angen i gyd-fynd â'r sgil, yn enwedig fel rhan o'r broses casglu gwaed gan roddwyr a'r angen am gyfathrebu iaith ar y rheng flaen. 

Byddwn yn parhau i weithio gyda'r grwpiau adrannol i sicrhau bod ein cynllun yn cael ei ddiwygio a'i arwain gan anghenion iaith ein gwasanaethau. 

Yng Nghanolfan Ganser Felindre, drwy’r system apwyntiadau, mae cryfhau'r Cynnig Gweithredol wedi gweld tri chlaf yn derbyn gofal ac yn dod yn ôl i gael gofal yn yr iaith Gymraeg.  Gyda systemau TG newydd ar waith ac ymrwymiad gan yr adran i'r cynnig Gweithredol, mae wedi galluogi'r adran i ymateb i anghenion penodol eu cleifion.

 

Gwefan  

Mae gwefan newydd yr Ymddiriedolaeth wedi cael ei lansio ac o fis Tachwedd 2022, rydym bellach yn gallu monitro diddordeb y Gymraeg yn ein gwybodaeth.

A graph that shows the increasing amount of people accessing the Welsh version of the Trust website.

 

 

Saesneg:
https://velindre.nhs.wales

Cymraeg:
https://felindre.gig.cymru/

Tachwedd 
2.3k o ddefnyddwyr 
6.9k o bobl wedi edrych ar ein tudalennau 

Tachwedd 
15 o ddefnyddwyr 
53 o bobl wedi edrych ar ein tudalennau 

Rhagfyr 
8.1k o ddefnyddwyr 
24k o bobl wedi edrych ar ein tudalennau 

Rhagfyr 
62 o ddefnyddwyr 
210 o bobl wedi edrych ar ein tudalennau 

Ionawr 
9.2k o ddefnyddwyr 
31k o bobl wedi edrych ar ein tudalennau 

Ionawr 
69 o ddefnyddwyr 
204 o bobl wedi edrych ar ein tudalennau 

Chwefror 
9.1k o ddefnyddwyr 
30k o bobl wedi edrych ar ein tudalennau 

Chwefror 
72 o ddefnyddwyr 
338 o bobl wedi edrych ar ein tudalennau 

Mae'n galonogol nodi bod cynnydd o 537% wedi bod dros bedwar mis mewn pobl sy’n edrych ar y wefan Gymraeg.   

 

Cyfathrebu dros y ffôn  

Dangosyddion perfformiad ar gyfer canolfan gyswllt rhoddwyr Gwasanaeth Gwaed Cymru rhwng 1 Ionawr a 16 Mawrth 2023 

Galwadau Saesneg: 9,716 

Cymraeg : 366 

Mae galwadau Cymraeg yn gweithio allan fel tua 4% o'r galwadau. 

Nid yw galwadau i Ganolfan Ganser Felindre a phencadlys yr Ymddiriedolaeth yn cael eu mesur, ond mae camau penodol ar gyfer staff sy'n gweithio'n uniongyrchol ar y ffôn wedi cael eu cyfathrebu.  Cynhaliwyd sesiwn holi ac ateb penodol hefyd, i sicrhau bod staff yn deall eu dyletswyddau.

 

Dyrchafiad 

A Welsh language tweet from Velindre University Trust and a video of a woman talking to camera. Rydym yn parhau i dynnu sylw at ddigwyddiadau pwysig yn y calendr Cymraeg.  Mae hyn yn golygu cyfle ychwanegol i staff ymgysylltu â diwylliant Cymru yn ogystal â'r iaith.   

Eleni, mae'r Ymddiriedolaeth wedi cymryd rhan mewn nifer o ddiwrnodau codi ymwybyddiaeth, gan gynnwys Dydd Gŵyl Dewi, Santes Dwynwen, diwrnod Shw'mae a 'mae gen ti hawl.'

Mae gwybodaeth am y digwyddiadau hyn yn rhedeg ochr yn ochr â'n gohebiaeth rheolaidd,  lle rydym yn hyrwyddo hyfforddiant iaith Gymraeg ar-lein ac wyneb yn wyneb.

 

 

A Welsh language tweet from Velindre University Trust and a video of a woman talking to camera. Mae ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol wedi bod yn brysur dros ben eleni, gyda'r ddwy adran yn cymryd rhan mewn digwyddiadau.  Rydym bellach yn cynnig fersiynau dwyieithog o'n holl fideos hyrwyddo.   

Eleni, buom yn ddigon ffodus hefyd i arddangos ein hymrwymiad i Ddiwylliant Cymru yng Nghynhadledd HPMA (Cymdeithas Rheoli Pobl Gofal Iechyd).  Mae hwn yn ddigwyddiad proffil uchel, a dathlwyd diwylliant Cymru mewn cynhadledd diwrnod o hyd, gydag Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn arddangos ei hymrwymiad.

 

Pryderon a chwynion  

Mae'r Ymddiriedolaeth yn croesawu adborth ar ei gwasanaethau.  Defnyddir pryderon neu gwynion i sicrhau ein bod yn parhau i ddeall anghenion ein cleifion a'n rhoddwyr.  Mae defnyddwyr y Gymraeg yn dod yn fwyfwy ymwybodol o'u hawliau i ddefnyddio'r iaith, ac mae'n ddyletswydd arnom i sicrhau y gallwn ddarparu'r gwasanaethau hynny hyd eithaf ein gallu.  Eleni, rydym wedi derbyn pedwar cwyn swyddogol ac un ymchwiliad ffurfiol. 

Roedd yr ymchwiliad ffurfiol yn canolbwyntio ar allu'r Ymddiriedolaeth i ateb y ffôn yn ddwyieithog ac i barhau â thrafodaeth yn Gymraeg.  Nid yw'r ymchwiliad wedi dod i ben; fodd bynnag, mae'r Ymddiriedolaeth wedi bod yn rhagweithiol, a bydd yn darparu hyfforddiant uniongyrchol ar godi hyder i aelodau o staff sy'n ateb y ffôn.   

Yn gyffredinol, mae pryderon a chwynion yr Ymddiriedolaeth ynghylch darparu gwasanaethau Cymraeg yn fach, ond rydym yn ymwybodol bod angen monitro ein darpariaeth yn barhaus, ac rydym wedi diweddaru ein polisi Pryderon eleni i adlewyrchu'r ddarpariaeth Gymraeg.

 

Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Uchafbwyntiau - Adolygiad o'r Gymraeg 2022/23 

 

Mae Uned y Gymraeg ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru wedi parhau i gefnogi adrannau a gwasanaethau NWSSP.  Mae wedi rhoi cyngor ar gydymffurfio a darparu gwasanaethau i'n cwsmeriaid trwy gyfrwng y Gymraeg, ac wedi cefnogi'r sefydliad a sefydliadau eraill y GIG gyda chymorth cyfieithu yn ystod 2022/23.  Mae'r galw am wasanaethau cyfieithu yn parhau i dyfu ac eleni, rydym wedi cyfieithu hyd yn oed mwy o eiriau nag yn 2021/22.  Yn 2022/23, mae NWSSP wedi cyfieithu cyfanswm o dros 5.2 miliwn o eiriau i'r sefydliadau canlynol:  

  • Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru 

  • Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre 

  • Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru 

  • Gofal Iechyd Digidol Cymru 

  • Addysg a Gwella Iechyd Cymru 

  • Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru 

  • Gwerth mewn Gofal Iechyd 

  • Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC) 

 

Cydymffurfio â Safon 106A  

Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn categoreiddio swyddi gwag neu newydd eu creu fel naill ai fel bod y Gymraeg yn hanfodol neu’n ddymunol, ac rydym wedi creu matrics i benderfynu pa gategori sgiliau sydd fwyaf perthnasol i bob swydd wag.  

Rydym wedi dyfeisio protocol a system lle mae pob hysbyseb yn cael ei chyfieithu a'i chyhoeddi ar system recriwtio TRAC a Swyddi'r GIG yn Gymraeg a Saesneg ers mis Mehefin 2022.  Rydym yn adolygu'r system yn rheolaidd i ddelio gydag unrhyw faterion sy'n codi wrth greu proses hysbysebu swyddi gwag.  

 

Taflenni Gwybodaeth Cleifion Hawdd eu Darllen 
Yn ystod y flwyddyn, rydym wedi cynnal adolygiad llawn o daflenni hawdd eu darllen a thaflenni newydd sy'n bodoli eisoes, ac wedi sicrhau bod cyfieithu'r taflenni hyn yn addas ar gyfer y gynulleidfa y bwriedir iddynt. 

System Gwobrau Myfyrwyr 
Fe wnaethom adolygu'r hen system i sicrhau bod taith y defnyddiwr yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg.  Yn ystod 2022/23, rydym wedi comisiynu datblygwr newydd a System Gwobrau Myfyrwyr newydd, lle bydd y rhyngwyneb ar gyfer myfyrwyr ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal ag unrhyw mail tips, gohebiaeth a negeseuon a gynhyrchir gan y system.  Bydd y gwaith hwn yn parhau tan 2023/24.  

System Adrodd y Gweithlu  
Mae'r wefan hon yn darparu Porthol Gwe ar gyfer Data Gofal Sylfaenol sy'n hygyrch i staff meddygfeydd, Clystyrau a Byrddau Iechyd GIG Cymru a sefydliadau rhanddeiliaid cymeradwy eraill.  Mae'r wefan hon ar gael i ddefnyddwyr cofrestredig yn unig.  Fodd bynnag, rydym wedi sicrhau bod y system yn ddwyieithog.  

Y Ddyletswydd Gonestrwydd - Fideo Cyhoeddus 
Rydym wedi cefnogi cynhyrchu fideo wedi'i animeiddio i'r cyhoedd yng Nghymru am ddyletswydd gonestrwydd mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru. Mae'r fideo ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. 

Cwrs ac Ap ar Ymwybyddiaeth Gwrth-dwyll  
Mae'r Cwrs Ymwybyddiaeth Gwrth-dwyll ar gyfer holl staff GIG Cymru ar gael yn Gymraeg, yn ogystal â'r ap i Staff y GIG roi gwybod am dwyll neu amheuaeth o dwyll yn GIG Cymru.  

Cwrs Ymwybyddiaeth GDPR Cymru Gyfan 
Rydym wedi bod yn cefnogi cynhyrchu Cwrs Ymwybyddiaeth GDPR Cymru Gyfan trwy gyfrwng y Gymraeg, a bydd hwn ar gael i'w lansio yn 2023/24. 

System Iechyd Galwedigaethol Cymru Gyfan ar gyfer staff GIG Cymru 
Mae'r fanyleb yn y broses dendro ar gyfer y system hon wedi cynnwys gofynion manwl ar gyfer rhyngwyneb y system, ac yn nodi y dylai unrhyw ohebiaeth/negeseuon a gwybodaeth am ohebiaeth bost fod ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg.  Bydd gwaith pellach ar y system hon yn parhau yn 2023/24.  

Asesu cydymffurfiaeth ar draws ein gwasanaethau 
Yn dilyn y pandemig, rydym wedi ailgyflwyno asesiadau lleol blynyddol ar draws ein gwasanaethau, er mwyn nodi meysydd o arfer gorau a meysydd risg.  Mae cynlluniau gwella a gweithredu lleol yn cael eu sefydlu er mwyn cryfhau ein gwasanaethau Cymraeg sydd yn cael eu cynnig ar draws holl wasanaethau a rhaglenni NWSSP.  

Gellir gweld copi o'r Adroddiad Blynyddol llawn ar gyfer NWSSP ar ein gwefan: Safonau'r Gymraeg - Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru  

 

Symud ymlaen 

Mae newid diwylliannol yn parhau i fod yn uchel ar ein blaenoriaethau.  Heb ddealltwriaeth ddyfnach o'r angen am wasanaethau dwyieithog, byddwn yn parhau i wella darpariaeth sydd heb sylfeini cryf, gan ddibynnu'n helaeth ar barodrwydd staff cefnogol.   

Mae rhaglen sefydlu'r Ymddiriedolaeth yn cael ei diweddaru, a bydd unwaith eto yn cynnwys pwysigrwydd y Gymraeg, ochr yn ochr â meysydd eraill fel Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol.  Mae ein hymrwymiad i'r meysydd hyn yr un mor bwysig i ni â'n gofynion clinigol, gan ein bod yn gwybod pa mor bwysig ydynt i'n cleifion a'n rhoddwyr.  Mae cyfathrebu yn allweddol i ofal diogel. 

Bydd y cynllun Diwylliannol yn cael ei ddiwygio, a bydd cynllun gweithredu wedi'i adnewyddu yn tynnu sylw at gyfleoedd i staff ymgyfarwyddo â'r iaith a’r cyfleoedd i ddysgu.  Byddwn yn cysylltu hyn â'r fframwaith 'Mwy na Geiriau...'  hefyd, gan fod ein gweithredoedd yn ymwneud yn bositif â nodau'r fframwaith.   

Bydd ein gwaith o recriwtio a chynllunio'r gweithlu yn chwarae rhan allweddol hefyd.  Mae cynllunio gydag anghenion ein cymuned mewn golwg yn sicrhau dull wedi'i dargedu o recriwtio.  Gyda hyn mewn golwg, bydd ein proses recriwtio yn cael ei monitro’n gryf, i sicrhau bod y sgiliau Cymraeg sydd eu hangen yn cael eu hamlygu'n gywir.  Mae hyn yn parhau i fod yn heriol i ni, gan fod natur ein gwasanaethau yn galw ar gronfa fach o arbenigeddau clinigol, ond rydym wedi ymrwymo i'r agenda hon.