20 Mai 2024
Wedi'i sefydlu yn 2017, mae'r Ymchwiliad Gwaed Heintiedig yn ymchwiliad statudol cyhoeddus annibynnol a sefydlwyd i archwilio'r amgylchiadau lle cafodd dynion, menywod a phlant a gafodd eu trin gan wasanaethau iechyd gwladol yn y DU gan waed heintiedig a chynhyrchion gwaed heintiedig, yn enwedig yn y 1970au, 80au a’r 90au cynnar.
Cymerodd yr Ymchiliad dystiolaeth lafar rhwng 2019 a 2023 a chafodd adroddiad terfynol yr Ymchwiliad ei gyhoeddi ar 20 Mai 2024. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am waith yr Ymchwiliad yma (yn agor mewn tab newydd).
Os ydych chi'n poeni am eich risg, gallwch gael prawf cyfrinachol am ddim ar gyfer Hepatitis C a HIV gan Iechyd Cyhoeddus Cymru drwy glicio ar y ddolen hon (yn agor mewn tab newydd). Mae'r risg o fod wedi cael haint yn isel iawn.
Gallwch hefyd wirio'r symptomau ar gyfer Hepatitis C a HIV ar dudalennau gwe gwirwyr symptomau GIG Cymru (yn agor mewn tab newydd).
Gallwch glicio ar y ddolen hon i gael rhagor o wybodaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru am Hepatitis C (yn agor mewn tab newydd).
Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru wedi datblygu Cwestiynau Cyffredin cynhwysfawr ar eu gwefan i'ch cefnogi os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am faterion mewn perthynas â'r Ymchwiliad Gwaed Heintiedig. Gallwch ddarllen mwy am y broses o roi gwaed, y profion a wneir a thrallwysiad gwaed trwy fynd i'r dudalen hon. Bydd yn cael ei ddiweddaru'n rheolaidd gyda'r wybodaeth a'r gefnogaeth ddiweddaraf.