14 Ebrill 2025
Mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) wedi cyhoeddi heddiw bod triniaeth ar gyfer canser datblygedig y fron a ddechreuodd ei hoes yng Nghaerdydd fwy na 10 mlynedd yn ôl, wedi’i chymeradwyo i’w defnyddio gan y GIG yng Nghymru a Lloegr.
“Mae’n newyddion gwych bod canlyniadau’r treial FAKTION bellach wedi arwain at gymeradwyaeth NICE, sy’n golygu y bydd cleifion canser y fron ym Mhrydain nawr yn gallu cael mynediad at capivasertib drwy’r GIG,” meddai’r Athro Rob Jones, Cyd-Brif Ymchwilydd ar gyfer treial FAKTION a Chyfarwyddwr Meddygol Cyswllt ar gyfer Ymchwil, Datblygu ac Arloesi yng Nghanolfan Ganser Felindre.
“Arweiniwyd FAKTION o Gaerdydd a dangosodd y gallai cleifion â chanser sy’n cynnwys un neu fwy o dri biofarcwr ddisgwyl dyblu eu hoes pe bai capivasertib yn cael ei ychwanegu at eu therapi hormonau.
“Cafodd y canfyddiadau hyn eu cadarnhau wedyn mewn treial Cam 3 mwy ac mae canlyniadau’r ddau dreial wedi bod yn hanfodol i gael cymeradwyaeth NICE.
“Pan fydd claf wedi cael diagnosis o ganser metastatig, mae cleifion yn aml yn poeni fwyaf am faint o amser sydd ganddyn nhw ar ôl. Er na allwn gynnig iachâd, bydd y feddyginiaeth newydd hon yn ennill amser hynod bwysig ychwanegol i bobl y gallant ei dreulio gyda'u teuluoedd a'u ffrindiau.
Dechreuodd y treial clinigol FAKTION Cam I a noddwyd gan Felindre yn 2014 a dangosodd y canlyniadau y gallem gyfuno therapi hormonau safonol yn ddiogel ag atalydd AKT capivasertib AstraZeneca.
Y cam nesaf oedd treial Cam II a gaeodd yn 2018, a ddangosodd y gallai cleifion a gafodd y driniaeth gyfunol ddisgwyl i’w canser gael ei reoli a byw am gyfnod dwywaith yn hirach na’r rhai sy’n derbyn therapi hormonau yn unig.
Roedd AstraZeneca wedi'u cyffroi gan ganlyniadau treial FAKTION a chychwynnodd dreial byd-eang Cam III a gadarnhaodd ganfyddiadau FAKTION ac a arweiniodd at yr Asiantaeth Cyffuriau Ffederal UDA (FDA) yn trwyddedu triniaeth cyffuriau i'w defnyddio mewn cleifion â chanser y fron datblygedig ER positif, HER2 negyddol ym mis Mehefin 2023.
Cafwyd cymeradwyaeth yn 2024 gan Asiantaeth Feddygol Ewrop ac Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd y DU (MHRA), ac roedd angen cymeradwyaeth NICE i alluogi cleifion y GIG i gael y driniaeth.