4 August 2023
Cwblhaodd Becky y cwrs yn ddiweddar dros ddwy flynedd ym Mhrifysgol De Cymru. Mae'r cwrs yn hyrwyddo hunan-ddarganfod ac ymwybyddiaeth o ofynion ymarfer proffesiynol, yn ogystal ag ymdrin â hanfodion nyrsio, hybu iechyd a lles, gwyddorau bioseicogymdeithasol, rheoli meddyginiaethau, ymchwil/tystiolaeth, asesu, a diwallu anghenion. Y mae hefyd yn archwilio cyfleoedd therapiwtig ar draws meysydd nyrsio fel egwyddorion craidd.
Meddai Viv Cooper, Pennaeth Nyrsio, Ansawdd, Profiad Cleifion a Gofal Integredig: “Mae hwn yn gyrhaeddiad gwych ac yn enghraifft wych o sut mae angen i ni fanteisio ar gyfleoedd i ddatblygu ein gweithlu y tu hwnt i fodelau traddodiadol. Rydym yn falch iawn o Becky ac mae hi eisoes wedi ysbrydoli eraill i ddilyn llwybr tebyg.”
Symudodd Becky i Gymru yn 2018 er mwyn ymuno â Felindre, ar ôl gweithio fel Cynorthwyydd Gofal Iechyd yn Ysbyty Southmead ym Mryste. Daeth yn Uwch Weithiwr Cymorth Gofal Iechyd ym maes SACT gan gymryd arsylwadau, gwythïen-bigo, canwla, ac mae hi hefyd yn rhan o'r Tîm Mynediad IV sy'n cynnig cymorth wrth osod llinellau PICC.
Meddai Jeanette Miller, Rheolwr Nyrsio Cleifion Allanol: “Pan ddaeth Becky at Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre am y tro cyntaf, roedd hi'n chwa o awyr iach, yn awyddus iawn i ddysgu, ac yn cwestiynu pawb er mwyn deall yn well beth rydyn ni'n ei wneud a pham. Roedd hi'n amlwg ei bod hi am wella ei hun a gwneud yr holl waith caled sydd ei angen i gael y swydd hon wrth weithio'n llawn amser hefyd.”
Mae'r cymhwyster yn cynnwys arholiad anatomeg a ffisioleg y mae'n rhaid llwyddo ynddo, yn ogystal â thraethawd adfyfyriol a thaflen sy'n hyrwyddo agwedd ar iechyd a lles. Mae'r cwrs ar gyfer gweithwyr cymorth gofal iechyd sy'n gweithio gyda nyrsys cofrestredig a rolau nyrsio cynorthwyol. Rhaid ennill y cymhwyster hwn er mwyn dod yn Ymarferydd Cynorthwyol.
Meddai Nicola Williams, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Uwch Ymarferwyr Iechyd a Gwyddor Iechyd: “Rwy’n falch iawn o Becky. Mae hi’n ysbrydolI ac yn arwain y ffordd ar gyfer rolau uwch ar gyfer gweithwyr cymorth yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre. Mae heriau sylweddol o'n blaenau o ran ein gweithlu clinigol ar draws y GIG ac mae angen i ni feddwl yn wahanol o ran sut mae modd darparu gofal a gwasanaethau i'n cleifion. Mae Ymarferwyr Cynorthwyol yn ffordd o gyflawni hyn.”
Ar hyn o bryd, mae'r Ymddiriedolaeth yn helpu pedwar Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd bob blwyddyn i ddilyn y cwrs, sy'n hynod boblogaidd ymhlith ein staff oherwydd y cyfleoedd y mae'n eu cynnig, gan gynnwys gofyniad hyfforddiant fframwaith a rôl yr Ymarferydd Cynorthwyol.
Ar hyn o bryd, mae un aelod arall o staff yn rôl yr Ymarferydd Cynorthwyol dan Hyfforddiant ac mae'r Ymddiriedolaeth yn gobeithio recriwtio trydydd aelod dros yr wythnosau nesaf.