15 Rhagfyr 2023
Yn gynharach yr wythnos hon, bu carreg filltir bwysig yn y gwaith o adeiladu Canolfan Loeren Radiotherapi newydd gwerth £38 miliwn yn Ysbyty Nevill Hall.
Cynhaliodd cynrychiolwyr o Ganolfan Ganser Felindre, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Kier, y partneriaid adeiladu, seremoni lofnodi ar y safle yn y Fenni, a fydd yn gartref i uned o’r radd flaenaf.
Mae disgwyl i'r cyfleuster newydd agor ddechrau 2025 gan chwyldroi'r gallu cleifion i gael gwasanaethau radiotherapi a sicrhau bod gofal hanfodol ar gael yn nes at eu cartrefi.
Yn rhan o raglen hirdymor i drawsnewid gwasanaethau canser yn ne Cymru, nod y prosiect yw dod â gwasanaethau gofal iechyd o ansawdd uchel yn uniongyrchol i'r gymuned, a hynny mewn adeiladau rhagorol sydd wedi eu codi'n bwrpasol i ddarparu gwasanaeth o ansawdd rhagorol.
Mae'r cynllun yn cynnwys ehangu ffiniau Ysbyty Nevill Hall, dymchwel yr adeilad mamolaeth unllawr presennol a chodi adeilad deulawr mwy o faint yn ei le a fydd yn darparu mwy o le i wella hygyrchedd ac yn cofleidio tirweddu newydd, gan drawsnewid yr amgylchedd.
Mae cynnydd sylweddol wedi ei wneud yn y gwaith o adeiladu’r adeilad yn ystod y misoedd diwethaf, gan gynnwys y brif ffrâm ddur sy’n rhoi cipolwg ar faint a graddfa’r uned newydd.
Mae strwythur bynceri'r cyflymyddion llinellol (LINAC), sydd wedi eu gwneud o flociau concrit uchel eu dwysedd i helpu i ddiogelu cleifion rhag ymbelydredd, hefyd wedi dechrau dod at ei gilydd. Bydd y bynceri hyn yn dal y cyflymyddion llinellol meddygol, sy'n defnyddio pelydr ymbelydredd uchel ei egni i drin canser.
Roedd pum aelod o Felindre yn rhan o’r grŵp o uwch randdeiliaid a ymwelodd â’r safle, a fydd yn dwyn budd i gleifion am flynyddoedd lawer pan fydd wedi ei gwblhau.
Am ragor o ddiweddariadau cyffrous ynglŷn â'r Ganolfan Loeren Radiotherapi newydd, ewch i wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.