15 Chwefror 2023
Bydd ysgoloriaeth nyrsio, sy’n cynnig cymorth ariannol ar gyfer prosiectau addysg neu brosiectau gwella gwasanaeth yng Nghanolfan Ganser Felindre’n parhau i fod ar gael, diolch i sefydliad yn enw cyn-glaf.
Mae Sefydliad Lowri Pugh wedi codi £51,000 dros ddeng mlynedd ac mae balans y gronfa wedi ei roi’n hael i’r Ganolfan Ganser er mwyn iddi barhau i gynnal ysgoloriaethau nyrsio.
Ffurfiwyd y sefydliad gan Margaret a John Pugh yn 2013 er cof am eu merch, Lowri, a fu farw ddwy flynedd yn gynharach o ganser y fron.
Meddai Margaret Pugh:
“Fe ddymunon ni sefydlu elusen er cof am Lowri er mwyn cael rhywbeth i ffocysu arno fel rhieni ac i helpu’r ysbyty. Rydyn ni wedi clywed cymaint o bethau da am Felindre ac rydyn ni’n falch o allu cyfrannu mewn unrhyw ffordd. Mae’n gysur i ni fel rhieni hefyd. Roedd Lowri wedi gwerthfawrogi cynhaliaeth y nyrsys yn Felindre’n fawr. Roedden nhw ar ben arall y ffôn ddydd a nos pan oedd angen. Dyma pam i ni ddewis cefnogi’r ochr hon o waith Felindre.”
Mae’r sefydliad eisoes wedi ariannu dwy ysgoloriaeth a bydd rhagor yn cael eu cynnig nes bod yr arian sy’n weddill wedi ei wario.
Meddai Viv Cooper, Pennaeth Nyrsio, Ansawdd, Profiad Cleifion a Gofal Integredig yng Nghanolfan Ganser Felindre:
“Mae’n wych bod teulu Lowri wedi penderfynu ein helpu i wella profiad cleifion a rhoi’n hael er mwyn parhau â’r ysgoloriaethau nyrsio. Diolch i Sefydliad Lowri Pugh, rydyn ni eisoes wedi ariannu dwy ysgoloriaeth nyrsio ac mae’r ddwy wedi newid ymarfer clinigol a gwella profiad y cleifion yn Felindre.”
Ym mis Ebrill, bydd nyrsys Felindre’n cael gwahoddiad i gyflwyno cais am yr ysgoloriaeth er mwyn ariannu darnau o waith sy’n gallu dangos gwelliannau mewn ymarfer clinigol.
Bydd modd cyflwyno cais am unrhyw syniadau i wella unrhyw agwedd ar ymarfer nyrsio oncoleg. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi dros yr wythnosau nesaf.