Neidio i'r prif gynnwy

Sefydliad anhygoel yn ariannu ysgoloriaeth nyrsio

15 Chwefror 2023

Bydd ysgoloriaeth nyrsio, sy’n cynnig cymorth ariannol ar gyfer prosiectau addysg neu brosiectau gwella gwasanaeth yng Nghanolfan Ganser Felindre’n parhau i fod ar gael, diolch i sefydliad yn enw cyn-glaf.

Mae Sefydliad Lowri Pugh wedi codi £51,000 dros ddeng mlynedd ac mae balans y gronfa wedi ei roi’n hael i’r Ganolfan Ganser er mwyn iddi barhau i gynnal ysgoloriaethau nyrsio.

Ffurfiwyd y sefydliad gan Margaret a John Pugh yn 2013 er cof am eu merch, Lowri, a fu farw ddwy flynedd yn gynharach o ganser y fron.

Meddai Margaret Pugh:

“Fe ddymunon ni sefydlu elusen er cof am Lowri er mwyn cael rhywbeth i ffocysu arno fel rhieni ac i helpu’r ysbyty. Rydyn ni wedi clywed cymaint o bethau da am Felindre ac rydyn ni’n falch o allu cyfrannu mewn unrhyw ffordd. Mae’n gysur i ni fel rhieni hefyd. Roedd Lowri wedi gwerthfawrogi cynhaliaeth y nyrsys yn Felindre’n fawr. Roedden nhw ar ben arall y ffôn ddydd a nos pan oedd angen. Dyma pam i ni ddewis cefnogi’r ochr hon o waith Felindre.”

Mae’r sefydliad eisoes wedi ariannu dwy ysgoloriaeth a bydd rhagor yn cael eu cynnig nes bod yr arian sy’n weddill wedi ei wario.

Meddai Viv Cooper, Pennaeth Nyrsio, Ansawdd, Profiad Cleifion a Gofal Integredig yng Nghanolfan Ganser Felindre:

“Mae’n wych bod teulu Lowri wedi penderfynu ein helpu i wella profiad cleifion a rhoi’n hael er mwyn parhau â’r ysgoloriaethau nyrsio. Diolch i Sefydliad Lowri Pugh, rydyn ni eisoes wedi ariannu dwy ysgoloriaeth nyrsio ac mae’r ddwy wedi newid ymarfer clinigol a gwella profiad y cleifion yn Felindre.”

Ym mis Ebrill, bydd nyrsys Felindre’n cael gwahoddiad i gyflwyno cais am yr ysgoloriaeth er mwyn ariannu darnau o waith sy’n gallu dangos gwelliannau mewn ymarfer clinigol.

Bydd modd cyflwyno cais am unrhyw syniadau i wella unrhyw agwedd ar ymarfer nyrsio oncoleg. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi dros yr wythnosau nesaf.