Neidio i'r prif gynnwy

Rydyn ni'n recriwtio Llysgenhadon Ifanc!

17 Ionawr 2025

Mae Felindre'n recriwtio mwy o bobl ifanc i ymuno â Rhaglen y Llysgenhadon Ifanc.

Mae’r cynllun yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i bobl ifanc rhwng 6 a 21 oed weithio gydag Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre a’i chefnogi, gan gynnwys digwyddiadau codi arian, gweithgareddau cymdeithasol a rôl unigryw wrth helpu i lunio Canolfan Ganser Felindre newydd fydd yn agor yn 2027.

P'un a ydych chi'n chwilio am brofiadau newydd, cyfleoedd i wirfoddoli ar gyfer eich CV neu gyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol, byddai'n braf iawn eich croesawu!

Cefnogwch, codwch arian a defnyddiwch eich llais!

Mynnwch wybod mwy a gwnewch gais i fod yn Llysgennad Ifanc Felindre heddiw.

Rydyn ni'n recriwtio Llysgenhadon Ifanc!

Maer cynllun yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i bobl ifanc 6-21 oed…

Gwirfoddolwyr ifanc yn dosbarthu pecynnau Pasg i gleifion

Llysgenhadon Ifanc yn dosbarthu 400 o wyau Pasg i gleifion a'r staff.

Llysgenhadon Ifanc yn dod ynghyd i wyrddio'r ganolfan

10 llysgennad ifanc yn creu mannau gwyrdd a bywiog i gleifion ac…

Codi arian drwy dyfu llysiau

Mae dau on llysgenhadon ifanc wedi dod o hyd i ffordd greadigol o godi…