Neidio i'r prif gynnwy

Rhwydwaith Canser Cymru'n cyhoeddi Cynllun Gwella Canser ar gyfer GIG Cymru 2023-26

17 Chwefror 2023

Mae Rhwydwaith Canser Cymru wedi lansio cynllun gwella tair blynedd sy’n mynd i fod yn fuddiol i gleifion a gweithwyr gofal iechyd canser proffesiynol ledled Cymru.

Nod y cynllun gweithredu yw gwella canlyniadau a phrofiadau cleifion canser. Mae’n canolbwyntio ar atal canser, gwneud diagnosis ohono yn gynharach ac yn gyflymach, trin cleifion gyda’r triniaethau mwyaf effeithiol, a’u cefnogi nhw a’u gofalwyr ar hyd y llwybr triniaeth hwn a’r tu hwnt.

Mae’r Cynllun Gwella Gwasanaethau Canser yn nodi sut y bydd amseroedd aros cenedlaethol ar gyfer triniaethau canser yn lleihau drwy waith canolfannau diagnostig cyflym un stop, darparu Llwybrau Delfrydol Cenedlaethol ar gyfer canser (yn unol â thargedau Llywodraeth Cymru), defnyddio technoleg a phrosesau arloesol, a gweithio ar y cyd ar lefel genedlaethol ar draws ffiniau byrddau iechyd.

Mae’n disgrifio’r hyn y bydd y GIG a’i bartneriaid yng Nghymru yn ei wneud i wella’r ffordd mae triniaethau canser effeithiol yn cael eu darparu – gan gynnwys llawdriniaeth, radiotherapi, therapi gwrth-ganser systemig a gofal cefnogol – a gwella pa mor hygyrch ydynt. 

Mae’r Cynllun Gwella Gwasanaethau Canser hefyd yn nodi cynlluniau ar gyfer darparu canllawiau cenedlaethol i gleifion sy’n byw gyda chanser na ellir mo’i wella neu gleifion sy’n marw o ganser, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn safon well o ofal wedi’i bersonoli ac yn cael gofal diwedd oes pan fydd angen.

Mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ledled Cymru, cleifion canser, rhanddeiliaid ehangach, Llywodraeth Cymru a Chynghrair Canser Cymru oll wedi gweithio ar y cyd i gefnogi’r gwaith o lunio’r cynllun.

Dywedodd yr Athro Tom Crosby, Cyfarwyddwr Clinigol Canser Cenedlaethol Cymru:

“Mae gwasanaethau canser, a gwasanaethau gofal iechyd yn ehangach, o dan bwysau digynsail. Mae’n ddyletswydd ar bawb sy’n arwain, yn cynllunio ac yn darparu gwasanaethau canser i wneud popeth posibl i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl ar gyfer cleifion yn ystod cyfnod heriol.

“Y newyddion da yw bod gennyn ni syniad da o sut i wella canlyniadau cleifion, ac mae’r Cynllun Gwella hwn yn disgrifio’r hyn y mae angen inni ei wneud i gyflawni’r hyn y mae’r cyhoedd a chleifion yng Nghymru yn ei haeddu.”

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Gydag un allan o bob dau ohonon ni’n datblygu canser o ryw fath yn ystod ein hoes, bydd canser yn effeithio ar fywydau pob un ohonon ni ar ryw adeg. Ar gyfer y bobl hynny sy’n datblygu canser, mae angen inni sicrhau bod gwasanaethau o safon ar gael i’w cefnogi a’u trin yn gyflym ac yn briodol er mwyn sicrhau’r canlyniadau iechyd mwyaf cadarnhaol posibl.

“Yn ôl canfyddiadau Arolwg Profiad Cleifion Canser Cymru 2020 rhoddodd 92% o’r ymatebwyr sgôr uchel ar gyfer eu gofal cyffredinol, ond mae rhagor o waith gennyn ni i’w wneud o hyd. Bydd y Cynllun Gwella Gwasanaethau Canser yn ein helpu i adeiladu ar wasanaethau canser presennol er mwyn gwella canlyniadau a phrofiadau cleifion, atal a chanfod canser yn gynharach a lleihau amseroedd aros.

“Mae hwn wedi bod yn gyfnod heriol iawn i’n gwasanaeth iechyd, ond rwy’n falch o weld bod gwaith yn cael ei wneud i wella gwasanaethau canser. Byddwn ni’n parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau canser a gweithio gyda’r GIG i wella ansawdd y gofal a chanlyniadau cleifion.”

Darllenwch y cynllun llawn.

Darllenwch y ddogfen crynodeb.