8 Hydref 2026
Fel rhan o'n hymgyrch pen-blwydd yn 70 oed, rydym yn rhannu atgofion sy’n adlewyrchu’r tosturi, y caredigrwydd a’r ddynoliaeth sydd wedi bod wrth galon Gwasanaeth Canser Felindre dros y saith degawd diwethaf. Dyma stori un teulu.
Ar 21 Tachwedd 1995, croesawodd Fiona ei phlentyn cyntaf, Charlie, i'r byd. Dylai fod wedi bod yn un o gyfnodau hapusaf ei bywyd. Yn hytrach, roedd hefyd yn un o'r anoddaf.
Cafodd Charlie ei eni ychydig wythnosau cyn ei amser trwy doriad Cesaraidd tra bod mam Fiona, Val, yn derbyn gofal diwedd oes yng Nghanolfan Ganser Felindre yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd.
Roedd Val, a oedd yn wreiddiol o'r Rhath ac yn byw ar Albany Road, wedi derbyn radiotherapi yn Felindre o'r blaen yn dilyn diagnosis o ganser y fron. Roedd Fiona a'i theulu wedi gwybod ers tua chwe mis fod Val yn marw, ond roedden nhw wedi gobeithio y byddai hi'n ddigon da i ddychwelyd adref ac i gwrdd â'i ŵyr cyntaf – ei hunig ŵyr - mewn lleoliad mwy cyfarwydd.
Yn lle hynny, dirywiodd cyflwr Val yn gyflym, a chafodd ei symud i Felindre ychydig ddyddiau cyn i Charlie gael ei eni. "Dyma oedd yr amser mwyaf torcalonnus yn fy mywyd," cofiodd Fiona.
Fel unig blentyn, rhieni Fiona oedd ei hunig deulu agos, ac roedd ei theulu-yng-nghyfraith yn byw yn Iwerddon. Roedd yn deimlad ynysig a gofynnodd Fiona, a oedd yn benderfynol y byddai'r fam-gu a'r ŵyr yn cwrdd, i'r staff a allent drefnu ymweliad annhebygol. Cafodd ymateb ar unwaith.
Dim ond dau ddiwrnod ar ôl i Charlie gael ei eni, fe wnaeth staff o Ganolfan Canser Felindre ac Ysbyty Llandochau weithio gyda’i gilydd i drefnu cludiant diogel mewn deorydd. Aeth nyrs gyda Charlie, Fiona a'i gŵr Brendan ar y daith fel y gallai’r fam-gu a’i ŵyr gyfarfod am y tro cyntaf.
Mae'r foment yn parhau i fod yn un o atgofion mwyaf cofiadwy Fiona. Er bod Val yn rhy sâl i afael yn Charlie ei hun, cafodd ei dynnu allan o'r deorydd a'i roi wrth ei hymyl fel y gallai hi ei weld.
"Cefais fy synnu gan ba mor wael oedd hi'n edrych," meddai Fiona. "Ond roedd hi'n dal i fod yn hi ei hun. Roedd hi'n dal i roi cyngor ynghylch sut i ofalu am Charlie. Dyna'r math o berson oedd hi, bob amser yn ofalgar."
Er ei bod yn methu codi ei phen na symud llawer, serch hynny, gwenodd Val drwy gydol yr ymweliad. Wrth edrych yn ôl mwy na 30 mlynedd yn ddiweddarach, mae Fiona yn credu bod ei mam wedi dal mlaen i gwrdd â'i ŵyr.
"Rwyf wir yn credu ei bod hi'n aros i'w weld," meddai.
Dydi Fiona erioed wedi anghofio'r gofal a’r tosturi a ddangosodd y staff iddi yn y ddau ysbyty.
"Y cynllun gwreiddiol oedd i Mam gwrdd â Charlie gartref. Pan ddaeth hynny'n amhosibl, gweithiodd pawb yn gyflym i sicrhau bod yr ymweliad yn digwydd. Roedd yn golygu popeth i mi."
A nid dyna’r cyfan. Mae Fiona hefyd yn cofio'r menywod ar y ward yn casglu arian i Charlie, gweithred mae hi'n credu sy'n adlewyrchu hen draddodiad Cymreig o groesawu babi newydd.
"Roedd yn gwbl annisgwyl," meddai hi. "Roedden nhw'n wynebu eu heriau eu hunain, ond roedden nhw dal eisiau dathlu genedigaeth Charlie. Roedd yn rhywbeth meddylgar dros ben i’w wneud."
Wrth i'r ymweliad ddod i ben a'r grŵp ddechrau gadael i ddychwelyd i'r ward famolaeth yn Ysbyty Llandochau, dychwelodd Fiona at ochr gwely ei mam am y tro olaf. "Roeddwn i eisiau moment olaf gyda hi, dim ond y ddwy ohonom," meddai.
Y diwrnod canlynol, bu farw Val yn 70 oed.
Yn ystod y dyddiau a’r wythnosau a ddilynodd, bu Fiona ar daith emosiynol ddofn, yn sgil profi’r llawenydd o ddod yn fam, a'r torcalon o golli ei mam ar yr un pryd. Trefnodd angladd ei mam o'r ward famolaeth wrth i Charlie dderbyn y gofal hanfodol oedd ei angen arno.
Ac eto, mae un atgof wedi dod â chysur pan mae hi'n edrych yn ôl: "Cafodd fy mam gwrdd â Charlie. Mae'n golygu'r byd."
Heddiw, mae Charlie yn 30 oed ac, fel ei fam, mae wedi dod yn athro. Mae’r stori ynghylch y tro cyntaf iddo gwrdd â'i fam-gu wedi parhau i fod yn rhan bwysig o'u teulu. Cafodd y digwyddiad rhyfeddol sylw hyd yn oed yn y South Wales Echo ar y pryd, gan helpu i rannu moment o obaith yn ystod cyfnod o dristwch.
Wrth i Wasanaeth Canser Felindre ddathlu ei ben-blwydd yn 70 oed, roedd Fiona eisiau rhannu ei stori fel ffordd o ddiolch i'r bobl a helpodd i wneud y cyfarfod gwerthfawr hwnnw'n bosibl.
"Rydw i bob amser wedi bod eisiau diolch i Felindre yn iawn," meddai hi. "Roedd pawb yn wych. Nid yw'n rhywbeth rydw i erioed wedi'i anghofio."
Mae hi hefyd yn gobeithio y gallai fod aelodau o staff sy'n cofio'r ymweliad o hyd. Dywedodd: "Mae’n siŵr nad yw rhywbeth fel hyn wedi digwydd yn aml iawn. Os oes unrhyw un yn ei gofio, buaswn wrth fy modd yn siarad â nhw."
Wrth edrych yn ôl ar y digwyddiadau hynny fwy na thri degawd yn ddiweddarach, dywedodd Fiona fod yr atgof yn parhau i fod yn un y mae hi'n ei drysori.
"Roedd yn gyfnod anodd iawn yn fy mywyd, ond rwy'n edrych yn ôl arno gyda llawer o hoffter. Roedd yr hyn a wnaeth pobl i ni yn golygu cymaint."
Mae stori Gwasanaeth Canser Felindre wedi cael ei siapio gan filoedd o gleifion, teuluoedd, staff, gwirfoddolwyr a chefnogwyr.
Fel rhan o'n hymgyrch pen-blwydd yn 70 oed, rydym yn casglu atgofion, lluniau a straeon sy'n helpu i adrodd stori Felindre drwy'r bobl sy'n ei hadnabod orau.