25 Ebrill 2024
Mae timau ac unigolion o Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre wedi cael eu henwebu am sawl gwobr sy'n dathlu pobl wych a syniadau dewr ledled Cymru.
Mae'r Ymddiriedolaeth wedi cael pum enwebiad ar gyfer Gwobrau Canser Moondance eleni ac mae staff o lawer o wahanol rannau o'r sefydliad wedi cyrraedd y rhestr fer yn rhan o brosiectau ar y cyd ar draws GIG Cymru.
Cafodd tri gwasanaeth o Ganolfan Ganser Felindre eu henwebu yn y categori Cyflawniad a'r categori Arloesi a Gwella, yn ogystal â thîm o Wasanaeth Gwaed Cymru a’r Ganolfan Ganser a enwebwyd hefyd yn y categori Cyrhaeddiad.
Un o'r timau hynny a gyrhaeddodd y rhestr fer oedd y Gwasanaeth Tocsigedd Imiwnotherapi a chafodd ei gyd-arweinydd, Dr Ricky Frazer, ei enwebu'n unigol hefyd yn y categori Rhagoriaeth.
Cafodd staff o'r Ymddiriedolaeth a gyfrannodd at raglen Cynllunio'r Gweithlu Tomograffeg Allyriadau Positron (PET) a'r rhaglen QuicDNA hefyd eu henwebu yn y categori Cyrhaeddiad a'r categori Arloesi a Gwella.
Rhan o’r tîm y tu ôl i QuicDNA yw Craig Maxwell sy'n glaf canser ac sy'n codi arian. Mae Craig wedi codi bron £500,000 ar gyfer y rhaglen sy’n ceisio cael effaith ddramatig ar ddiagnosis o ganser yr ysgyfaint yng Nghymru. Ynghyd â Thîm QuicDNA, cafodd ei enwebu ar gyfer dwy wobr yn y categori Cyrhaeddiad a'r categori Arloesi a Gwella.
Dyma'r sawl o'r Ymddiriedolaeth a enwebwyd ar gyfer Gwobrau Canser Moondance eleni:
Cyrhaeddiad: Cydweithio
Addasu model casglu bôn-gelloedd mêr esgyrn Cymru
Gwasanaeth Gwaed Cymru a Chanolfan Ganser Felindre
Cyrhaeddiad: Cydweithio
Clinig dan arweiniad nyrsys i gleifion ar ôl radiotherapi
Canolfan Ganser Felindre
Cyrhaeddiad: Cyfraniad gan gleifion a'r cyhoedd
Cynllunio Gofal yn y Dyfodol Cymru
Tîm y Prosiect Sgwrsio am CPR yng Nghanolfan Ganser Felindre
Arloesi a Gwella: Triniaeth canser
Y Gwasanaeth Tocsigedd Imiwnotherapi
Canolfan Ganser Felindre
Rhagoriaeth: Meddygol
Dr Ricky Frazer, Oncolegydd Meddygol Ymgynghorol, Felindre
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn noson wobrwyo arbennig nos Iau 13 Mehefin, ac mae rhestr lawn o’r enwebeion i’w gweld ar wefan Moondance Cancer Wales.