1 Tachwedd 2024
Mae datblygiad ein huned radiotherapi lloeren newydd yn Nevill Hall yn mynd rhagddo’n gyflym wrth i ni baratoi i agor y cyfleuster yn 2025.
Cyrhaeddodd y rhaglen garreg filltir arwyddocaol yn ddiweddar wrth i ni dderbyn y ddau beiriant Linac a fydd yn cynnal ein triniaethau.
Byddwn nawr yn dechrau ar y broses o osod y bynceri a chomisiynu’r ddau beiriant, a fydd yn mynd â ni drwodd i Ionawr 2025. Mae disgwyl trin y cleifion cyntaf yn 2025.
Mae rhagor o wybodaeth am ein Huned Loeren Radiotherapi ar gael ar y dudalen benodol yma.
Gweler isod rai lluniau o'r peiriannau'n cyrraedd: