29 Mai 2026
Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre wedi cael ei chydnabod fel un o'r sefydliadau sy'n perfformio orau yn y GIG yng Nghymru, yn dilyn cyhoeddi canlyniadau Arolwg Staff y GIG 2025.
Mae'r canlyniadau'n rhoi cipolwg hollbwysig ar ymgysylltiad a morâl y gweithlu, ac yn dangos diwylliant cryf a chefnogol, sydd yn gosod y sefydliad ymhlith y perfformwyr gorau yn y GIG yng Nghymru.
Rhannodd mwy na 800 o gydweithwyr eu barn eleni – cyfradd ymateb o 41.3%, sy’n sylweddol uwch na chyfartaledd GIG Cymru o 30%. Mae'r lefel uchel hon o ymgysylltiad yn adlewyrchu gweithlu sydd wedi ymrwymo i lunio dyfodol gwasanaethau ar draws yr Ymddiriedolaeth.
Meddai Sarah Jenkins, Cyfarwyddwr Gweithredol Pobl a Datblygu Sefydliadol (Dros Dro): “Mae’r canlyniadau hyn yn rhywbeth y gall pawb yn Felindre deimlo’n falch ohonynt. Maen nhw'n dangos bod gennym ni ddiwylliant tosturiol a chynhwysol, a gweithlu sydd wedi ymrwymo'n ddwfn i ddarparu'r gorau i'n cleifion a'n rhoddwyr.
“Mae perfformio uwchlaw cyfartaledd GIG Cymru ym mhob thema, a bod ar y blaen mewn pump, yn gyflawniad sylweddol. Rwy'n falch iawn bod ein canlyniadau'n adlewyrchu ymroddiad, sgiliau a gwaith tîm ein cydweithwyr ar draws yr Ymddiriedolaeth.”
Mae'r canlyniadau'n tynnu sylw at yr Ymddiriedolaeth fel sefydliad sy'n perfformio'n uchel yn gyson. Sgoriodd yr Ymddiriedolaeth uwchlaw meincnod GIG Cymru ym mhob un o'r 10 thema a fesurwyd gan yr arolwg, ac roedd y sefydliad oedd â'r sgôr uchaf mewn pum maes allweddol.
Mae'r diwylliant cadarnhaol hwn yn cefnogi darparu gwasanaethau arbenigol ar draws Gwasanaeth Canser Felindre a Gwasanaeth Gwaed Cymru, yn ogystal â gwaith ehangach yr Ymddiriedolaeth.
Ochr yn ochr â'r cryfderau hyn, mae'r arolwg yn tynnu sylw at feysydd lle mae'r Ymddiriedolaeth yn benderfynol o fynd ymhellach. Rhannodd staff pa mor bwysig yw hi i barhau i wella sut mae'r sefydliad yn dysgu, cefnogi gweithio hyblyg, a chynnal morâl mewn amgylchedd gofal iechyd heriol.
Mae Felindre eisoes yn gweithredu ar yr adborth hwn drwy ei rhaglen "You said, we’re doing it together” –a gynlluniwyd i sicrhau bod lleisiau staff yn siapio newid yn uniongyrchol.
Dywedodd Sarah Jenkins fod y canlyniadau hefyd yn rhoi ffocws clir ar welliant parhaus: “Yr hyn sy’n gwneud yr arolwg hwn mor werthfawr yw ei fod yn rhoi llais go iawn i’n cydweithwyr. Rydym yn gwrando'n ofalus ar beth maen nhw wedi'i ddweud wrthym am beth rydym yn ei wneud yn dda, a lle mae angen i ni wneud mwy.
“Trwy ein rhaglen "You said, we’re doing it together”, rydyn ni eisoes yn gweithio mewn partneriaeth â thimau i wneud gwelliannau ystyrlon, o gryfhau cydnabyddiaeth staff i ddatblygu cynlluniau gweithredu lleol ar draws gwasanaethau.
“Rydym yn gwybod bod mwy i’w wneud, yn enwedig o ran gweithio hyblyg, dysgu a chynnal morâl, ac rydym wedi ymrwymo’n llwyr i wneud cynnydd yn y meysydd hyn.”
Mae Mynegai Ymgysylltu Staff yr Ymddiriedolaeth yn parhau i fod ymhell uwchlaw cyfartaledd GIG Cymru, ac yn adlewyrchu lefelau uchel o gymhelliant, cyfranogiad ac eiriolaeth ymhlith cydweithwyr.
Er bod sgoriau ymgysylltu wedi gweld gostyngiad bach yn unol â thueddiadau ehangach y GIG, maen nhw’n parhau i fod yn gryf – ac yn atgyfnerthu enw da'r Ymddiriedolaeth fel rhywle lle mae pobl yn teimlo'n falch o weithio ynddo, a gallu gwneud gwahaniaeth.
Y flwyddyn nesaf, bydd yr Ymddiriedolaeth yn canolbwyntio ar wella'r profiad gwaith i gydweithwyr ymhellach, gyda blaenoriaethau'n cynnwys:
Mae'r ymrwymiad parhaus hwn yn helpu i sicrhau bod staff yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi i ddarparu'r gofal gorau posibl i gleifion a rhoddwyr, nawr ac yn y dyfodol.
Mae'r canlyniadau hyn yn dangos bod yr Ymddiriedolaeth yn darparu gwasanaethau o ansawdd uchel ond hefyd, yn adeiladu gweithle cadarnhaol a chynhwysol lle gall pobl ffynnu.
Boed yn cefnogi cleifion trwy driniaeth canser, yn helpu rhoddwyr i roi rhodd o fywyd, neu'n gweithio tu ôl i'r llenni, mae pob rôl yn chwarae rhan hanfodol mewn gwneud gwahaniaeth.
“Mae ein pobl wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud. Mae'r canlyniadau hyn yn dangos ein bod ni’n darparu gwasanaethau rhagorol a hefyd, yn creu gweithle lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu gwerthfawrogi a'u bod yn gallu ffynnu. Os ydych chi'n chwilio am yrfa lle gallwch chi wneud gwahaniaeth go iawn a bod yn rhan o dîm cefnogol, sy’n perfformio’n uchel, byddem wrth ein bodd petasech chi’n ymuno â ni," ychwanegodd Sarah Jenkins.