19 April 2024
Mae Canolfan Ganser Felindre wedi lansio cynllun newydd i ailgylchu cannoedd o gymhorthion cerdded y flwyddyn.
Mae Canolfan Ganser Felindre yn rhoi cymorth i boblogaeth o 1.5 miliwn o bobl a mwy a chroesawodd y Ganolfan 9,000 o atgyfeiriadau newydd gan gleifion trwy ei drysau yn 2023.
Mae angen cymorth cerdded ar lawer o’r cleifion hyn – fel ffyn cerdded, baglau (crutches) a fframiau Zimmer – ar wahanol adegau o’u taith gyda chanser.
Nod y cynllun newydd yw ailgylchu cymaint o gymhorthion cerdded â phosibl. Mae’n galw ar gleifion a’u hanwyliaid i ddychwelyd unrhyw gymorth cerdded diangen fel bod modd ei adfer a’i roi i gleifion eraill yn y dyfodol.
Meddai Helena Goode, sy’n Ffisiotherapydd Arbenigol yn yr Adran Therapïau:
“Rydyn ni’n rhoi cannoedd o gymhorthion cerdded i gleifion bob blwyddyn ac maen nhw’n gallu gwneud gwahaniaeth aruthrol i allu cleifion i symud, byw’n annibynnol a gwella. Does dim dwywaith nad ydyn nhw’n gwella ansawdd bywyd cleifion ac mae hyn yn gallu trawsnewid cleifion ar bob cam o’u taith gyda chanser.
“Mae’n bwysig, nawr yn fwy nag erioed, ein bod ni’n chwilio am ffyrdd o wneud y defnydd mwyaf o’n hadnoddau ym mhob rhan o’r GIG. Mae llawer o’n cymhorthion cerdded yn cael eu hanghofio neu eu taflu i ffwrdd, felly roedden ni am fynd ati’n rhagweithiol i’w gwneud hi mor hawdd â phosib dychwelyd y cymhorthion hyn atom.
“Mae ein partneriaid cymunedol, Walters UK a Men’s Sheds, wedi dod ynghyd i adeiladu sied er mwyn i gleifion adael unrhyw gymhorthion diangen a does dim rhaid iddyn nhw hyd yn oed fynd trwy ardal glinigol i wneud hynny. Rydyn ni wrth ein bodd fod y sied yn barod i fynd ac rydyn ni’n croesawu pawb i ymweld â hi ac i ddychwelyd eu heitemau.”
Nid yn unig bydd y cynllun yn arbed costau a diogelu adnoddau, ond bydd hefyd yn lleihau gwastraff trwy atal cymhorthion rhag mynd i dirlenwi. Ar gyfartaledd, mae ailddefnyddio cymorth cerdded yn allyrru 98% yn llai o garbon nag archebu un newydd.
Mae’r sied yng nghefn maes parcio’r Adran Radiotherapi a chafodd ei datguddio’n gynharach heddiw mewn digwyddiad i dorri’r rhuban.
Cafodd y deunydd ei roi gan Walters UK, sef un o bartneriaid y gwaith galluogi ar gyfer Canolfan Ganser Felindre newydd, a defnyddiodd grŵp cymunedol Men’s Sheds y deunydd hwnnw i adeiladu’r sied.
Mae grŵp Men’s Sheds o Lysfaen yng Nghaerdydd yn creu hafan ar gyfer cysylltu, sgwrsio a chreu pethau. Adeiladodd aelodau o’r grŵp y sied gan ddefnyddio manyleb unigryw’r Adran Therapïau yng Nghanolfan Ganser Felindre.