18 Hydref 2023
Cyflwynwyd cyfanswm o 16 gwobr i unigolion, timau a phrosiectau o bob rhan o Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn ei Gwobrau Rhagoriaeth Staff 2023, sydd yn ôl unwaith eto ar gyfer 2023.
Cynhaliwyd y gwobrau ddiwethaf yn 2019 cyn pandemig y Coronafeirws (COVID-19), ac roedd y ffaith eu bod yn dychwelyd yn gyfle i'w groesawu, i ddathlu gwaith sy'n newid bywydau sydd wedi digwydd.
Cafwyd mwy na 180 o enwebiadau ar gyfer y gwobrau, gan gynnwys 30 gan aelodau'r cyhoedd, sy'n dangos dyfnder y cyflawniadau anhygoel sy'n digwydd ar draws yr Ymddiriedolaeth.
Yng nghanol yr enwebiadau, roedd ffocws ar sut mae staff Gwasanaethau Corfforaethol, Canolfan Ganser Felindre a Gwasanaeth Gwaed Cymru wedi gwella’r profiadau a’r canlyniadau i roddwyr, cleifion a phartneriaid.
Meddai Claire Budgen, Pennaeth Datblygu Sefydliadol ac Arweinydd y Gweithgor a drefnodd y gwobrau:
"Roedd trefnu’r gwobrau hyn ar ôl iddynt gael eu cnaslo yn ystod y pandemig yn fraint, ac rydym mor falch o dynnu sylw at ein gweithlu anhygoel. Mae staff ar draws yr Ymddiriedolaeth yn gwneud gwahaniaeth bob dydd, ac mae'n bwysig eu bod nhw’n derbyn y gydnabyddiaeth maen nhw’n ei haeddu. Hoffem ddweud llongyfarchiadau mawr i'r rhai a gyrhaeddodd y rhestr fer a'n henillwyr.
"Mae rhannu gwelliannau ac ysbrydoli arloesedd yr un mor bwysig ag erioed i'r GIG, ac rydym yn gwybod bod straeon o lwyddiant y tu ôl i bob enwebiad. Diolch i bawb a gymerodd yr amser i gymryd rhan yn ein gwobrau. Rydym yn edrych ymlaen yn barod at y flwyddyn nesaf."
Mae'r rhestr lawn o'r enillwyr yn cynnwys:
Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo hybrid wyneb yn wyneb ac ar-lein, ac estynnwyd gwahoddiad i'r enwebeion fynychu naill ai ym mhencadlys Gwasanaeth Gwaed Cymru neu yng Nghanolfan Ganser Felindre, gyda llawer mwy o staff o bob rhan o'r Ymddiriedolaeth yn ymuno yn rhithwir.