Neidio i'r prif gynnwy

Felindre'n dathlu staff wrth i'w Gwobrau Rhagoriaeth Staff ddychwelyd

A collage of award winners being presented with their certificates.

18 Hydref 2023

Cyflwynwyd cyfanswm o 16 gwobr i unigolion, timau a phrosiectau o bob rhan o Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn ei Gwobrau Rhagoriaeth Staff 2023, sydd yn ôl unwaith eto ar gyfer 2023.

Cynhaliwyd y gwobrau ddiwethaf yn 2019 cyn pandemig y Coronafeirws (COVID-19), ac roedd y ffaith eu bod yn dychwelyd yn gyfle i'w groesawu, i ddathlu gwaith sy'n newid bywydau sydd wedi digwydd.

Cafwyd mwy na 180 o enwebiadau ar gyfer y gwobrau, gan gynnwys 30 gan aelodau'r cyhoedd, sy'n dangos dyfnder y cyflawniadau anhygoel sy'n digwydd ar draws yr Ymddiriedolaeth.

Yng nghanol yr enwebiadau, roedd ffocws ar sut mae staff Gwasanaethau Corfforaethol, Canolfan Ganser Felindre a Gwasanaeth Gwaed Cymru wedi gwella’r profiadau a’r canlyniadau i roddwyr, cleifion a phartneriaid.

 

Meddai Claire Budgen, Pennaeth Datblygu Sefydliadol ac Arweinydd y Gweithgor a drefnodd y gwobrau:

"Roedd trefnu’r gwobrau hyn ar ôl iddynt gael eu cnaslo yn ystod y pandemig yn fraint, ac rydym mor falch o dynnu sylw at ein gweithlu anhygoel. Mae staff ar draws yr Ymddiriedolaeth yn gwneud gwahaniaeth bob dydd, ac mae'n bwysig eu bod nhw’n derbyn y gydnabyddiaeth maen nhw’n ei haeddu. Hoffem ddweud llongyfarchiadau mawr i'r rhai a gyrhaeddodd y rhestr fer a'n henillwyr.

"Mae rhannu gwelliannau ac ysbrydoli arloesedd yr un mor bwysig ag erioed i'r GIG, ac rydym yn gwybod bod straeon o lwyddiant y tu ôl i bob enwebiad. Diolch i bawb a gymerodd yr amser i gymryd rhan yn ein gwobrau. Rydym yn edrych ymlaen yn barod at y flwyddyn nesaf."

 

Mae'r rhestr lawn o'r enillwyr yn cynnwys:

  • Gwobr Addysg, Ymchwil ac Arloesi
    Tîm Imiwnotherapi Nyrs Glinigol Arbenigol, Canolfan Ganser Felindre

     
  • Gwobr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Hawliau Dynol
    Leigh Porter, Rheolwr Gwasanaethau Cymorth i Gleifion, Canolfan Ganser Felindre

     
  • Gwobr Mynd y Filltir Ychwanegol
    Gwasanaethau Gweithredol, Canolfan Ganser Felindre

     
  • Gwobr Iechyd a Lles
    Deborah Mullan, Cynorthwyydd Therapïau, Canolfan Ganser Felindre

     
  • Gwobr Gwella Profiad y Rhoddwr
    Tïm Casglu Gwaed – Tîm y Gorllewin, Gwasanaeth Gwaed Cymru

     
  • Gwobr Gwella Profiad y Claf
    Gwasanaeth Gwenwyndra Imiwnotherapi, Canolfan Ganser Felindre

     
  • Gwobr Arweinyddiaeth
    Ricky Frazer, Canolfan Ganser Felindre

     
  • Gwobr Partneriaeth
    Prosiect Dosbarthu Brechlynnau COVID-19, Tîm Brechlynnau Gwasanaeth Gwaed Cymru

     
  • Gwobr Dewis y Bobl
    Michele Pengelly, Nyrs Arbenigol mewn Gofal Cefnogol, Canolfan Ganser Felindre

     
  • Tîm y Flwyddyn
    Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd Niwro-Oncoleg ar y Cyd, ac y Tim Arbenigwyr Nyrsio Clinigol, Canolfan Ganser Felindre

     
  • Gwobr Ansawdd ac Effeithlonrwydd
    Tîm Llwybr Asesu Rhithwir, Canolfan Ganser Felindre

     
  • Gwobr Cynaliadwyedd
    NEQAS y DU ar gyfer Histogydnawsedd ac Imiwnogeneteg, Gwasanaeth Gwaed Cymru

     
  • Gwobr Gwirfoddolwyr
    Seren a Morgan Lewis-Daw, Veggie's for Velindre

     
  • Gwobr Datblygiad Digidol
    Tîm Prosiect Prometheus, Gwasanaeth Gwaed Cymru

     
  • Gwobr y Gymraeg
    Kirsty Huey, Radiograffydd, Canolfan Ganser Felindre

     
  • Gwobr Cadeirydd a Phrif Weithredwr
    Hannah Russon, Arweinydd y Prosiect Ysgol Oncoleg, Canolfan Ganser Felindre


Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo hybrid wyneb yn wyneb ac ar-lein, ac estynnwyd gwahoddiad i'r enwebeion fynychu naill ai ym mhencadlys Gwasanaeth Gwaed Cymru neu yng Nghanolfan Ganser Felindre, gyda llawer mwy o staff o bob rhan o'r Ymddiriedolaeth yn ymuno yn rhithwir.