16 Gorffennaf 2024
Mae prosiect yng Nghanolfan Ganser Felindre wedi cael ei enwebu am un o Wobrau GIG Cymru eleni.
Mae’r gwaith sy'n ceisio gwella'r gwaith o ddogfennu symudedd cleifion gyda chywasgiad metastatig ar linyn y cefn (MSCC) wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori'r Wobr Gofal Diogel.
Dechreuodd Kate Williams, sy'n Ffisiotherapydd Tra Arbenigol, ar y prosiect yn rhan o’i thraethawd hir MSc. Meddai hi:
“Roedd dogfennu statws symudedd cleifion gydag MSCC yn waith pwysig i fynd i’r afael ag ef, er mwyn atal niwed i gleifion neu i’r staff sy’n gofalu amdanynt.
“Cafodd methodoleg gwella ansawdd ei defnyddio er mwyn gwneud newidiadau syml i’n dogfennaeth bresennol. Roedd hyn yn sicrhau bod gennym ni'r wybodaeth gywir ynglŷn â gallu claf i symud cyn iddo gyrraedd Felindre am driniaeth.
"Roedd gofal diogel i gleifion bob amser yn ganolog i'r prosiect hwn, ac rwy'n gobeithio ei fod wedi mynd rhywfaint i sicrhau bod cleifion gydag MSCC bob amser yn cael gofal o'r ansawdd uchaf yng Nghanolfan Ganser Felindre."
Cyn cychwyn y prosiect ym mis Ionawr 2022, byddai cleifion gydag MSCC yn cael eu derbyn i'r Ganolfan Ganser heb fawr o wybodaeth ynglŷn â'u gallu i symud.
Roedd hyn yn golygu na fyddai staff Felindre yn gwybod sut i symud y cleifion yn ddiogel, ac o'r herwydd gallai cleifion fod yn gorffwys yn y gwely am gyfnod hwy nac y dylent neu y gallai staff eu symud nhw mewn modd amhriodol ac achosi niwed.
Erbyn diwedd y prosiect, cofnodwyd statws symudedd 91% o gleifion gydag MSCC a gafodd eu derbyn i'r Ganolfan Ganser yn eu nodiadau meddygol o fewn pedair awr i'w derbyn, i fyny o 38% a gofnodwyd cyn dechrau'r prosiect.
Erbyn hyn, mae'r arfer hon yn fater o drefn ar gyfer cleifion gydag MSCC yn rhan o restr wirio newydd wrth drosglwyddo cleifion rhwng Felindre a'r byrddau iechyd lleol.