Neidio i'r prif gynnwy

Ehangu'r gwasanaeth yn Uned Gymorth Nantgarw

7 Awst 2024

Mae Canolfan Ganser Felindre yn cynyddu nifer y cleifion SACT (therapi gwrth-ganser systemig) y mae'n gallu eu trin bob wythnos trwy weithredu am ddau ddiwrnod ychwanegol yn ei huned gymorth yn Nantgarw.

Bydd Uned Gymorth Nantgarw, sy’n cynnal clinigau ar ddydd Iau a dydd Gwener ar hyn o bryd, yn troi'n wasanaeth pedwar diwrnod yr wythnos wrth ddechrau cyflwyno clinigau ar ddydd Mercher ym mis Awst ac ar ddydd Mawrth ym mis Medi.

Mae’r gwasanaeth, sydd wedi bod yn rhan lwyddiannus o gapasiti ein gwasanaeth SACT ers blynyddoedd lawer, yn cael ei ddarparu mewn uned gymorth symudol o’r radd flaenaf sy'n eiddo i Gofal Canser Tenovus, a hynny mewn partneriaeth â Lloyds Pharmacy Clinical Homecare.

Bydd cynyddu nifer o ddiwrnodau'r gwasanaeth yn Nantgarw ac ehangu'r oriau gweithredu bob dydd yn arwain at gynnydd o 10% yn nifer y cleifion gall Felindre eu trin gyda SACT bob wythnos.

Mae'r adborth gan gleifion wedi bod yn hynod o gadarnhaol.

Mae Catherine yn glaf yn Felindre. Meddai hi "Ar y dechrau roeddwn i braidd yn nerfus gan fy mod i'n mynd i Felindre ers nifer o flynyddoedd. Pwy sy'n hoffi newid yn enwedig pan mae pethau'n mynd mor dda?

“Mae gan bobl syniad bod [yr uned] yn debyg i garafán neu fws symudol ond dyw hi ddim fel yna o gwbl. Mae'r ystafelloedd triniaeth bron union yr un fath â rhai Felindre.

“Mae’r uned yn gyfforddus iawn, mae’r staff yma mor groesawgar ac yn barod i helpu. Mae'n hawdd ei chyrraedd, mae digon o barcio ac mae’r driniaeth yma wedi mynd yn dda iawn.”

Meddai Andrew, sydd hefyd yn glaf yn Felindre, “Roeddwn i’n amheus ar y dechrau pan ddywedon nhw fod rhaid mynd i gael triniaeth mewn fan… ond wedyn dechreuodd popeth ddod at ei gilydd. Dwi wrth fy modd yn dod yma nawr.

“Mae gwên ar wyneb pawb bob amser, ac mae dod yma'n rhoi teimlad braf i mi. Maen nhw wir yn tawelu fy meddwl.”

Erbyn hyn, gallwn drin llawer o’n cleifion imiwnotherapi yn yr uned o’u cylch cyntaf o driniaeth ymlaen, ac felly mewn llawer o achosion, mae'n bosibl na fydd angen i gleifion ddod i uned SACT yn y ganolfan ganser o gwbl.

Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen we arbennig ar gyfer Uned Gymorth Nantgarw.