Neidio i'r prif gynnwy

Cyn-glaf canser ysbrydoledig yn bownsio'n ôl gyda'r bat

Mae pencampwr tenis bwrdd wedi talu teyrnged i'r driniaeth a gafodd yng Nghanolfan Ganser Felindre am ei helpu i wella’n llwyr ac ennill cystadlaethau cenedlaethol, ac mae eisiau cynnig gobaith i eraill.

Cafodd Steve Eades, 62 o Gaerdydd, ddiagnosis o Lymffoma nad yw’n Hodgkin's Cam 4 yn 2011. Mae wedi gwella’n llwyr erbyn hyn, ac wedi bownsio'n ôl gyda'r bat i ennill anrhydedd o fri.

Ym mis Medi, cadarnhaodd Steve ei safle fel y chwaraewr tenis bwrdd gorau yn ei grŵp oedran yn y DU, drwy ennill medal aur ym Mhencampwriaethau Rhyngwladol y Gwledydd Cartref i Bobl Hŷn yn Ynys Manaw, a chystadlu yn erbyn pobl o bob rhan o'r wlad.

"Dwi ddim yn gallu canmol y nyrsys digon ac roedd y staff yn hollol wych, ac fe wnaethon nhw fy helpu i wella," meddai Steve, wrth sôn am ei gyfnod yng Nghanolfan Ganser Felindre.

"O'r eiliad yr es i mewn i'w gofal, doedd dim byd yn rhy anodd iddyn nhw. O'r person oedd yn glanhau'r sgyrtins a'r lloriau, i'r person oedd yn delio gyda fy meddyginiaeth, i'r nyrs oedd yn dod i mewn bob nos dim ond i weld sut oeddwn i - roedd popeth yn brofiad bendigedig.

"Diolch am roi fy mywyd yn ôl i mi."

 

Wynebu canser

Roedd canser yn her doedd Steve ddim yn disgwyl ei wynebu. Yn ystod sgan arferol yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn gynnar yn 2011, cafodd wybod am y tro cyntaf bod rhywbeth o’i le.  Buan iawn y newidiodd yr hyn a fu'n brynhawn Gwener arferol, ac roedd yn rhaid iddo aros i weld meddyg ar y dydd Llun canlynol.

Cafodd Steve chwe wythnos o brofion yn Ysbyty Llandochau ar ôl i gysgod gael ei ddarganfod ar ei ysgyfaint. Ar ôl cael thoracotomi, ble mae toriad yn cael ei wneud rhwng yr asennau i gyrraedd yr ysgyfaint, cafodd ei ddiagnosio gyda Lymffoma Cell-B Actif sydd ddim yn Hodgkin’s. Yna, cafodd ei gyfeirio’n syth at Felindre, a gadarnhaodd ei ddiagnosis i fod ar Gam 4.

Dros y saith mis nesaf, derbyniodd Steve chwe chwrs o driniaeth R-CHOP, cyfuniad o gyffuriau canser sydd yn cael eu defnyddio yn gyffredin ar gyfer Lymffoma sydd ddim yn Hodgkin’s. Cafodd niwmonia a chyfnodau o deimlo’n unig, ond roedd yn rhyddhad pan ddangosodd sgan CT fod y tiwmor yn mynd yn llai.

Fe wnaeth camau olaf y driniaeth R-CHOP effeithio ar Steve, sy'n cyfaddef ei fod wedi stryglo ar adegau. "Ro'n i mor flinedig, collais fy ngwallt ar y cam hwnnw," cofiodd Steve yn onest, "ond roedden nhw'n dal i ddweud wrtha i fod rhaid iddyn nhw fy ngwneud i'n sâl i fy helpu i wella. Ar ôl mynd trwy'r broses, allen nhw ddim fod wedi bod yn fwy cywir."

Yna, cafodd y newyddion anhygoel ei fod wedi gwella’n llwyr yn 2014.

 

Brwydro'n ôl

Mae bywyd ar ôl canser yn gallu golygu llawer o wahanol bethau i nifer o bobl. Mae canser yn gallu gwneud rhai pobl yn ansicr am y dyfodol, tra bod eraill yn awyddus i ddychwelyd i'w gweithgareddau arferol cyn gynted â phosib.

Fe wnaeth Steve ddarganfod cysur yn ei hoff hobi, a chododd y bat gydag anogaeth gan y bobl agosaf ato.

"Gallwn fod wedi eistedd yn ôl a phenderfynu fy mod i eisiau bywyd tawel a dim eisiau cystadlu gormod eto, ond roedd pobl o fy nghwmpas yn fy annog i godi fy mat eto.

Roedd Steve wedi bod yn hoff iawn o chwaraeon ers yn blentyn, a dechreuodd ar ei daith tenis bwrdd fel plentyn 12 oed. Ers hynny, mae wedi dod yn wyneb cyfarwydd ar y llwyfan yn ei ddinas enedigol ac ar draws Cymru.

Ers cael canser, mae Steve wedi teithio'r byd yn chwarae tenis bwrdd, ac fe arweiniodd at ei fuddugoliaeth diweddar ar Ynys Manaw.

Ym Mhencampwriaethau Rhyngwladol y Gwledydd Cartref i Bobl Hŷn eleni, daeth Steve adref gyda'r fedal aur yn y Categori Dynion Dros 60 oed,  mewn cystadleuaeth ffyrnig gan ei gystadleuwyr ar draws y DU.

Yn y gystadleuaeth flynyddol, a gynhaliwyd eleni yn Douglas, mae’r chwaraewyr gorau o Gymru, Lloegr, yr Alban, Iwerddon, Jersey a Guernsey yn cystadlu am y teitl mewn gwahanol gategorïau rhyw ac oedran.

Er mwyn rhoi ei fuddugoliaeth yn ei gyd-destun, mae tua 1,000 o chwaraewyr tenis bwrdd cofrestredig ar bob lefel yng Nghymru - dim ond ychydig o dan 40,000 sydd yn Lloegr.

 

Neges o obaith

Bydd un o bob dau berson yn y DU sydd yn cael eu geni ar ôl 1960 yn cael diagnosis o ryw fath o ganser yn ystod eu hoes (Cancer Research UK), ac mae Steve eisiau i'w stori gynnig gobaith i bobl sydd mewn sefyllfaoedd tebyg.

"Fy neges i i bawb sy'n mynd trwy hyn, ac mae'n broses ac mae'n gallu bod yn anodd dros ben, yw i ddilyn eich breuddwydion," meddai yn ei glwb tenis bwrdd yn y Rhâth, Caerdydd.

"Gallwch wneud unrhyw beth rydych chi eisiau mewn bywyd. Mae'n cymryd amser, ond cyn belled â bod gennych chi ddyfalbarhad a ffydd ynoch chi eich hun, gallwch gyflawni unrhyw beth rydych chi'n dymuno ei gyflawni."