Ym Medi 2021, lawnsiwyd cystadleuaeth gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre i ddatblygu Canolfan Ganser Felindre newydd. Fe'i enillwyd gan gonsortiwm ACORN gyda dyluniadau ar gyfer canolfan ganser newydd hardd, cain, cynaliadwy a ddyluniwyd ar gyfer cleifion, staff a'r gymuned leol gyda thirwedd eithriadol a datrysiad budddaliadau cymunedol.
I wireddu'r cynllun hwn, mae cwmni ACORN wedi cyflwyno cais cynllunio Materion â Gedwir yn Ôl i Gyngor Caerdydd i'w ystyried.
Mae cais Materion â Gedwir yn Ôl yn cynnwys manylion fel dylunio adeiladau a chynlluniau tirlunio ar gyfer sêl bendith Cyngor Caerdydd.
Bydd y manylion a nodir o fewn y cais Materion â Gedwir yn Ôl, gan gynnwys model a delweddau cyfrifiadurol o'r dyluniadau, ar gael i'r cyhoedd eu gweld yn ein Digwyddiadau Galw Heibio Cymunedol Agored sy'n digwydd 14, 18 a 24 Hydref 2022 yng Nghlwb Rygbi'r Eglwys Newydd.
Mae'r cyflwyniad yn cyfeirio at y ffordd fynediad brys a gymeradwywyd sy'n rhedeg drwy ystâd Hollybush ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae'r Ymddiriedolaeth wedi cynnig cais newydd i ddarparu’r ffordd hon i'r de o safle y ganolfan ganser newydd. Yn amodol ar ystyriaeth Cyngor Caerdydd o'r cais newydd hwn, bwriad ACORN yw dileu'r lleoliad presennol ar gyfer y ffordd fynediad brys o'r cais Materion â Gedwir yn Ôl.
Mae tîm ACORN wedi bod yn gweithio'n galed i ddarparu canolfan ganser a fydd yn hyrwyddo rhagoriaeth mewn gwasanaethau canser ac yn cefnogi ymchwil a datblygu rhyngwladol.
Nodir rhai o nodweddion allweddol y dyluniadau manwl isod.
Datblygwyd y dyluniad i sicrhau yr effaith leiaf bosibl ar y safle. Nod y strategaeth ddylunio a thirwedd yw cadw'r safle mor wyllt â phosibl drwy gadw cynefinoedd presennol a chreu cynefinoedd newydd, creu ardaloedd newydd fel perllan a gardd gegin gymunedol. Mae'r cynllun hefyd yn ceisio creu ardaloedd chwarae anffurfiol a llu o fannau cerdded, beicio ac ymlacio.
Mae cleifion ac ymwelwyr yn cyrraedd trwy'r mynedfeydd yn uniongyrchol i mewn i'r 'Lolfa' gan ddarparu awyrgylch groesawgar i gleifion ac ymwelwyr. Darperir amrywiaeth o lefydd croesawu eraill gan gynnwys y man aros am gludiant cleifion, lolfa pobl ifanc a'r caffi/bwyty.
Mae'r ganolfan ganser newydd yn cael ei datblygu i gydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 gan ddarparu'r ysbyty mwyaf cynaliadwy yn y DU.
Mae'r dull dylunio sy’n ymdrin â ffasadau yn golygu y gellir ad-drefnu gofodau mewnol yn hawdd heb fod angen newidiadau strwythurol costus. Bydd hyn yn caniatáu i'r adeilad ymateb i ofynion arloesi mewn triniaeth ac offer yn y dyfodol.
Mae'r dyluniad yn defnyddio deunyddiau carbon-isel seiliedig ar ddefnyddio biodechnoleg, sy'n hybu economi gylchol. Mae hyn yn cynnwys pren sydd wedi ei bennu ar gyfer ardaloedd y Lolfa, Radiotherapi ac ardaloedd aros. Cynigir deunyddiau mewnol naturiol megis rendradau calch a chlai sy'n anadladwy, hyblyg, a gwrth-ffwngaidd i ddarparu amgylchedd naturiol, heddychlon i staff, cleifion, eu teuluoedd ac ymwelwyr.
Bydd Canolfan Ganser Felindre newydd yn cyflawni isafswm sgôr BREEAM o 'Ardderchog' ac mae hi wedi'i chynllunio i fod yn drydanol i gyd. Mae strategaeth ar waith i leihau gwastraff ar safle trwy weithgynhyrchu cydrannau oddi ar y safle, lleihau cludiant a gwella effeithlonrwydd adeiladu a chynnal a chadw'r adeilad.
Bydd systemau Draenio Trefol Cynaliadwy yn cael eu hintegreiddio sy'n canolbwyntio ar ymagwedd 'o do i afon' gydag ychydig iawn o bibellau tanddaearol, rhwydwaith o bantiau a phwll cadw.
Bydd y cynnig o fanteision cymunedol yn golygu bod llawer o swyddi'n cael eu creu, prentisiaid yn cael eu hyfforddi ac ymgysylltu â disgyblion ysgol a mentrau cymunedol. Bydd ACORN yn sefydlu Cynllun Cyflawni Manteision Cymunedol IMPACT sy'n cael ei ddisgrifio â phum pennawd allweddol:
Mae'r manteision cymunedol ychwanegol yn cynnwys Rhaglen Hyfforddi Llythrennedd Carbon, cyflogi Rhaglen Ceidwaid, Tyfu a Ffynnu Busnes Cymdeithasol, Marchnad Gwneuthurwyr Busnes Cymdeithasol, a chasgliad o adnoddau.
Gallwch ddod o hyd i'r cais cynllunio Materion â Gedwir yn Ôl ar Borth Cynllunio Cyngor Caerdydd yma
Am ragor o wybodaeth, dewch draw i un o'n Digwyddiadau Galw Heibio Cymunedol Agored neu cysylltwch â ni ar cysylltu.felindre@wales.nhs.uk