Neidio i'r prif gynnwy

Cynnal cyfarfod cyntaf Bwrdd Partneriaeth y Cleifion a'r Gofalwyr

23 Hydref 2024

Mae'n braf cyhoeddi fod cyfarfod cyntaf Bwrdd Partneriaeth y Cleifion a'r Gofalwyr yr Ymddiriedolaeth wedi ei gynnal ddydd Mercher 16 Hydref 2024.

Meddai Carl James, Prif Weithredwr Dros Dro Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre “Mae cyfarfod cyntaf Bwrdd Partneriaeth y Cleifion a'r Gofalwyr yn nodi carreg filltir bwysig wrth roi ein Strategaeth Ymgysylltu â Chleifion ar waith. Fel bwrdd gweithredol, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod llais cleifion a gofalwyr yn rhan annatod o’n diwylliant a’n ffordd o weithio.”

Dros yr ychydig fisoedd nesaf, bydd y Bwrdd yn gweithio gyda’r swyddogion gweithredol allweddol, aelodau o Uwch Dîm Arwain Canolfan Ganser Felindre a’r Pennaeth Ymgysylltu â Chleifion i nodi’r meysydd ffocws allweddol ar gyfer 2025.

  • Hysbysu, cynnwys a chydweithio â chleifion a gofalwyr presennol a chyn-gleifion, y cyhoedd, y trydydd sector a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod profiad byw'n cyfrannu at ein gwasanaethau ac yn dylanwadu arnynt.

  • Nodi cyfleoedd i gyfrannu at raglenni cynllunio a newid gwasanaethau, gwella darpariaeth gwasanaethau ac ati.

  • Sicrhau bod llais ein cleifion, ein gofalwyr a’r cyhoedd yn cael ei glywed.

Meddai David Cogan, Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth y Cleifion a'r Gofalwyr “Fel Cadeirydd y Bwrdd newydd, bydda i a’r aelodau'n gweithio gyda'r Ymddiriedolaeth i ddatblygu rhaglen o gyfleoedd y byddwn yn canolbwyntio arni yn ystod 2025. Bydd hyn yn cynnwys diffinio pwyllgorau'r Ymddiriedolaeth a Chanolfan Ganser Felindre a grwpiau a fyddai'n elwa o gael eu cynrychioli gan rywun sydd â phrofiad byw. Y nod yw bod cleifion, gofalwyr ac aelodau o’u teulu yn cael “eu gweld, eu clywed a’u cydnabod” ym mhob rhan o'r Ymddiriedolaeth.”