23 Medi 2026
Mae arddangosfa gelf newydd sydd yn dathlu hanes Gwasanaeth Canser Felindre wedi cael ei gosod yng Nghanolfan Ganser Felindre fel rhan o ymgyrch i nodi ei phen-blwydd yn 70 oed.
Mae'r arddangosfa yng Nghaerdydd wedi cael ei chreu mewn partneriaeth â’r rhaglen Celfyddydau mewn Iechyd, i archwilio'r bobl, y lleoedd a'r momentau arbennig sydd wedi siapio Felindre dros y degawdau. Mae'n rhan o'r ymgyrch pen-blwydd, o’r enw 'Yn falch o'n gorffennol, yn gyffrous am ein dyfodol'.
Mae'r ymgyrch yn dathlu saith deg mlynedd o ofal, arloesedd, ymchwil a thosturi ac ar yr un pryd, yn helpu i greu cyffro ynghylch symud i’r Ganolfan Ganser Felindre newydd yn nhymor y Gwanwyn 2027.
Mae'r arddangosfa'n cynnig cyfle unigryw i fyfyrio ar hanes y gwasanaeth, ac yn edrych ymlaen at ei ddyfodol trwy luniau, straeon personol a deunydd hanesyddol. Mae'n cynnwys detholiad o luniau gan David Collyer a straeon a gasglwyd gan Jude Rogers, sy'n arddangos yr ysbryd a'r gymuned sydd wedi dod yn gyfystyr â Felindre.
Meddai Sally Thelwell, Cydlynydd Celfyddydau ac Iechyd yng Ngwasanaeth Canser Felindre: "Mae ein rhaglen Celfyddydau mewn Iechyd yn bodoli oherwydd ein bod yn gwybod bod gofal iechyd yn ymwneud â llawer mwy na thriniaeth yn unig. Gall prosiectau creadigol helpu pobl i gysylltu a dod o hyd i gysur yn ystod cyfnodau anodd. Mae'r arddangosfa hon yn dathlu nid yn unig hanes Felindre ond hefyd, gwerth y bobl sydd wedi'i siapio.
"Wrth i ni nodi 70 mlynedd o Wasanaeth Canser Felindre, mae'r arddangosfa hon yn darparu lle i gleifion, teuluoedd, staff ac ymwelwyr oedi, cofio a dathlu'r gymuned eithriadol sydd wedi datblygu yma."
Mae llawer o’r deunydd yn deillio o’r prosiect Moving House, a gasglodd atgofion a myfyrdodau gan gymuned Felindre wrth iddi baratoi i symud i’r ganolfan ganser newydd.
Meddai Kate Hammond, Uwch Reolwr Ymgysylltu yng Ngwasanaeth Canser Felindre: "Crëwyd y prosiect Moving House i gofnodi'r straeon, yr atgofion a'r profiadau syd yn gwneud Felindre yn unigryw wrth i ni baratoi i symud. Roedden ni eisiau gwybod beth oedd pobl yn teimlo oedd fwyaf pwysig i fynd gyda nhw i'n pennod nesaf.
"Yr hyn a ddaeth yn amlwg yn gyflym oedd mai nid am adeiladau oedd pobl yn siarad. Roedden nhw'n siarad am gyfeillgarwch, caredigrwydd, teuluoedd, datblygiadau, chwerthin, cefnogaeth, a chymaint mwy. Mae’r straeon personol hynny wrth galon yr arddangosfa, ac yn helpu i gadw rhan bwysig o hanes Felindre yn fyw.”
Bydd yr arddangosfa’n parhau i gael ei harddangos yng Nghanolfan Ganser Felindre tan y byddwn yn symud i’r ganolfan ganser newydd, ac yn rhoi cyfle parhaol i gleifion, teuluoedd, staff ac ymwelwyr i ymgysylltu â hanes y gwasanaeth.
Mae'r ymgyrch pen-blwydd yn gwahodd pobl i gyfrannu eu hatgofion a'u lluniau eu hunain hefyd, fel rhan o archif gynyddol sy'n dathlu 70 mlynedd o Wasanaeth Canser Felindre.
Gall aelodau’r cyhoedd, cyn-staff a staff presennol, gwirfoddolwyr, cleifion, teuluoedd a chefnogwyr rannu eu straeon drwy’r dudalen we bwrpasol ar gyfer y pen-blwydd. Dyma sut y gallwch chi gymryd rhan.
Mae Gwasanaeth Canser Felindre yn darparu gofal canser arbenigol i fwy na 1.5 miliwn o bobl ar draws de ddwyrain Cymru a thu hwnt. Fel rhan o Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, mae gwasanaethau’n cael eu darparu trwy fodel ‘prif ganolfan a lloerennau’, gyda Chanolfan Ganser Felindre yn gwasanaethu fel canolfan driniaeth, addysgu ac ymchwil arbenigol ar gyfer oncoleg anfeddygol.
Mae Gwasanaeth Canser Felindre yn darparu ystod eang o driniaethau, gan gynnwys cemotherapi, triniaethau gwrth-ganser systemig (SACT), radiotherapi a gofal lliniarol arbenigol. Drwy ddysgu, arloesi, ymchwil a gwella gwasanaethau, mae'r gwasanaeth wedi ymrwymo i ddarparu gofal o'r ansawdd uchaf i gleifion a theuluoedd ar draws Cymru.