29 Ebrill 2024
Mae arbenigwr Seicoleg Glinigol a Chwnsela yng Nghanolfan Ganser Felindre wedi derbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM) gan Arglwydd Raglaw Ei Mawrhydi dros Forgannwg Ganol, Peter Vaughan.
Cyhoeddwyd anrhydedd Sarah Bull yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2024 a chynhaliwyd seremoni arbennig yng Ngwesty Coed Y Mwster, ger Pen-y-bont ar Ogwr, yr wythnos ddiwethaf.
Yn rhan o’r tîm Seicoleg Glinigol yng Nghanolfan Ganser Felindre, mae Sarah wedi cael ei chydnabod am wasanaethau i ofal lliniarol yn ystod gyrfa ragorol sydd wedi ymestyn dros sawl degawd.
Crëwyd y Fedal ym 1922 ar gyfer y rheiny â gwasanaeth sifil neu filwrol teilwng sy'n haeddu cydnabyddiaeth gan y Goron. Mae'r Fedal yn cydnabod cyraeddiadau a gwasanaeth pobl eithriadol ledled y DU ac yn cael ei dyfarnu i'r rheiny sydd wedi rhoi gwasanaeth 'ymarferol' i'r gymuned leol sydd wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol.
Meddai Arglwydd Raglaw Ei Mawrhydi dros Forgannwg Ganol, Peter Vaughan:
"Mae bob amser yn bleser cyflwyno anrhydeddau arbennig fel Medal yr Ymerodraeth Brydeinig i unigolion. Mae'n fraint wirioneddol pan fyddwch chi'n gwybod bod y person hwnnw wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol, gan sicrhau bod y rhai sydd angen ein cymorth fwyaf yn cael yr help hwnnw," meddai Sarah. wedi bod yn arweinydd ysbrydoledig yn y gwasanaeth profedigaeth, gan ddatblygu cymorth pwrpasol i gleifion a’u teuluoedd, gyda ffocws arbennig ar helpu plant i ymdopi â phrofedigaeth rwy’n siŵr yn ei rôl newydd gyda Felindre y bydd Sarah yn parhau i wneud gwahaniaeth cadarnhaol.”
Cafodd y Fedal ei chyflwyno gan Peter Vaughan, a gafodd ei benodi gan Ei Mawrhydi y Frenhines yn Arglwydd Raglaw Morgannwg Ganol ym mis Mai 2019 ar ôl gweithio am fwy na 33 mlynedd yng ngwasanaeth yr heddlu. Yn wreiddiol o Aberfan, rôl yr Arglwydd Raglaw yw cynrychioli Ei Fawrhydi’r Brenin ledled y sir, gan gynnwys cyflwyno anrhydeddau, medalau, a gwobrau, yn ogystal â dyletswyddau gyda’r lluoedd arfog.
Yn 2023, cafodd cynifer â 9,000 o gleifion newydd eu cyfeirio i Ganolfan Ganser Felindre sy’n gwasanaethu poblogaeth o tua 1.5 miliwn o bobl yn ne-ddwyrain Cymru.
Mae llawer o'r cleifion hyn yn elwa ar y tîm Seicoleg Glinigol sy'n gallu eu helpu ag anawsterau emosiynol yn ystod profiadau bywyd trallodus, fel diagnosis o ganser neu driniaeth ar ei gyfer.
Cyn hynny, bu Sarah yn gweithio yn Felindre rhwng 1998 a 2005 fel cymorth technegol galwedigaethol a ffisiotherapi. Gadawodd i weithio yn Hosbis y Ddinas fel cwnselydd a Phennaeth y Gwasanaethau Profedigaeth, gan gwblhau cylch llawn ac ailymuno â’r tîm yng Nghanolfan Ganser Felindre ar ddiwedd 2023.
Mae'r cyraeddiadau lu yng ngyrfa Sarah yn cynnwys sefydlu gwasanaeth cwnsela proffesiynol yn 2005 ar gyfer cleifion ac aelodau o'r teulu gyda chymorth City Hospice (Ymddiriedolaeth George Thomas gynt). Roedd hyn yn cynnwys rhoi cymorth i blant a phobl ifanc cleifion sy'n paratoi ar gyfer gofal diwedd oes.
Yn ogystal â hynny, llwyddodd Sarah â chais yn 2007 am grant Plant mewn Angen i sefydlu grŵp profedigaeth plant a phobl ifanc mewn partneriaeth gydweithredol â Chanolfan Ganser Felindre. Bu’r grŵp cymorth pwysig hwn ar waith am 13 mlynedd gan helpu llawer o blant a phobl ifanc yn eu harddegau i fynegi eu teimladau ar golled a rhoi cyfle hollbwysig i blant mewn profedigaeth gwrdd â phlant eraill mewn sefyllfa debyg.
Rhagor o wybodaeth am ein Gwasanaeth Seicoleg Glinigol a Chwnsela.