Neidio i'r prif gynnwy

Yr Ymchwiliad Gwaed Heintiedig | Datganiad gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre

Velindre University NHS Trust logo.

21 May 2024

Datganiad gan Steve Ham, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, lle y mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn wasanaeth cenedlaethol gweithredol:

Rydym yn cydnabod ac yn ymddiheuro'n ddiffuant am boen a cholled drasig pawb sydd wedi'u heintio a’u heffeithio gan waed a chynhyrchion gwaed.

Rydym yn cymryd cyfrifoldeb llawn am y methiannau a amlinellir yn yr adroddiad sy'n ymwneud â gweithredoedd y Gwasanaeth. Mae gwersi wedi cael, a byddant yn parhau i gael eu dysgu er budd diogelwch y cyhoedd a chleifion.  

I'r rhai sydd wedi'u heintio a'u heffeithio, rydym yn diolch i chi am eich dewrder i rannu eich profiadau. Ni fyddant yn cael eu hanghofio a byddant yn sail i'n dull o ymdrin â diogelwch cleifion yn y dyfodol.

Hoffem ddiolch hefyd i Syr Brian Langstaff a thîm yr Ymchwiliad am eu holl waith. Mae dadansoddiad arbenigol, manwl wedi'i gyflawni gyda thosturi ac mae eu Gwaith wedi rhoi llais i brofiadau personol a gafodd eu cadw'n dawel am gyfnod rhy hir.

Byddwn yn gweithio gyda'n cydweithwyr ar draws GIG Cymru, Llywodraeth Cymru a Gwasanaethau Gwaed y DU ar ein hymateb i ganfyddiadau'r adroddiad i sicrhau na all y digwyddiadau a ddisgrifir yn yr adroddiad ddigwydd eto. Byddwn hefyd yn parhau i weithio ym mhob ffordd bosibl i gefnogi gwaith parhaus yr Ymchwiliad.

Heddiw, mae'r gadwyn cyflenwi gwaed yng Nghymru yn rheoledig iawn ac mae gwasanaethau gwaed a diogelwch gwaed wedi esblygu'n sylweddol ers y digwyddiadau trasig a ystyriwyd gan yr Ymchwiliad.

Mwy o wybodaeth

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am Wasanaeth Gwaed Cymru drwy ymweld: www.welsh-blood.org.uk/cy

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru wedi datblygu Cwestiynau Cyffredin cynhwysfawr ar eu gwefan i'ch cefnogi os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am faterion mewn perthynas â'r Ymchwiliad Gwaed Heintiedig. Gallwch ddarllen mwy am y broses o roi gwaed, y profion a gynhaliwyd a thrallwysiad gwaed trwy fynd i'r dudalen hon. Bydd yn cael ei ddiweddaru'n rheolaidd gyda'r wybodaeth a'r gefnogaeth ddiweddaraf.