29 Ionawr 2024
Bydd ap digidol, arloesol yn cael ei dreialu yn rhan o brosiect y Gwasanaeth Oncoleg Acíwt yng Nghanolfan Ganser Felindre, sydd ag uchelgais allweddol o weithio’n ddoethach i wella gofal i gleifion gan ddefnyddio technoleg.
Mae Consultant Connect yn ddull haws o gyfathrebu i staff clinigol mewn timau gofal sylfaenol ac eilaidd ar draws y Byrddau Iechyd sy’n bartneriaid. Bydd timau clinigol yn y Ganolfan Ganser yn gallu defnyddio cyfeiriadur o wasanaethau yn yr ap i gysylltu â thimau arbenigol yn gyflymach, gan fynd heibio switsfyrddau prysur. O ganlyniad, bydd hyn yn arwain at well canlyniadau i gleifion a gwell boddhad ymysg y staff.
Bydd hyn yn galluogi clinigwyr oncoleg acíwt yn Felindre, meddygon teulu, meddygon ysbyty a thimau cymunedol i drafod problemau cleifion a chael cyngor ac arweiniad prydlon yn uniongyrchol yn y fan a’r lle dros y ffôn er mwyn darparu gofal i gleifion.
Mae’r cynllun peilot hwn yn cyd-fynd ag amcanion Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre o fod yn eithriadol o ran ansawdd, diogelwch a phrofiad, ac yn sefydliad disglair ar gyfer ymchwil, datblygu ac arloesi yn ein meysydd o flaenoriaeth. Bydd y cynllun yn lansio ar 29 Ionawr ac yn rhedeg am ddau fis mewn cydweithrediad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro cyn cael ei roi ar waith yn ehangach.