05 Gorffennaf 2024
Bedair blynedd yn ôl, Bryan Webber oedd claf rhif un ar brawf clinigol canser y pen a’r gwddf PEARL yng Nghanolfan Ganser Felindre.
Heddiw, mae'n defnyddio ei brofiad o gael diagnosis o ganser, o gael triniaeth ac o gymryd rhan mewn treialon clinigol i gefnogi'r genhedlaeth nesaf o ddeintyddion.
Mae Bryan yn ddeintydd wedi ymddeol, sydd wedi bod yn gweithio yn y GIG am 50 mlynedd, ac mewn rôl hyfforddi am y 30 mlynedd diwethaf. Mae'n frwdfrydig ynghylch rhoi gwell dealltwriaeth i hyfforddeion deintyddol o'r rôl y gallant ei chwarae mewn canfod canser yn gynnar, yn ogystal â'r problemau y mae cleifion yn eu profi o ganlyniad i'w triniaeth ganser.
Mae Bryan yn cofio sut y dechreuodd gael ei wahodd i siarad â graddedigion deintyddol:
“Pan ddechreuais i driniaeth ar gyfer fy nghanser, penderfynais bostio rhywfaint o luniau ar Facebook i ddangos i fy ffrindiau beth oedd yn digwydd i mi. Fe wnes i bostio lluniau o fy ngheg a fy nhaflod, yr wlserau a ddatblygodd, fy sganiau MRI a PET, popeth! Roedd fy ffrindiau deintyddol wedi’u cyfareddu a chyn bo hir, roeddwn yn cael fy ngwahodd i ddod i adrodd fy stori i wahanol grwpiau yn y sector deintyddol, gan gynnwys myfyrwyr deintyddol.
Mae diagnosis cynnar yn hanfodol i driniaeth canser lwyddiannus, ac mae deintyddion yn y lle iawn i sylwi ar newidiadau yng ngheg eu cleifion. Ac wedyn, pan fyddan nhw’n cyfeirio claf i weld ei Feddyg Teulu, dyna ddiwedd y peth fel arfer – dydyn nhw ddim yn gweld beth sy’n digwydd ar ôl hynny.
Rwy’n mynd â nhw drwy fy mhrofiad o ganser, y profion a gafodd eu gwneud, y driniaeth a pham y dewisais i gymryd rhan yn y treial clinigol PEARL. Dwi’n dweud wrthyn nhw hefyd am yr effaith gorfforol a seicolegol mae canser y pen a’r gwddf yn ei gael ar bobl. Mae’r driniaeth yn anodd, a chefais gyfnodau pan nad oeddwn yn meddwl y gallwn ymdopi. Gyda chymorth ffrindiau, teulu a’r Uned Cymorth Cleifion yng Nghanolfan Ganser Felindre, llwyddais i gwblhau fy nhriniaeth “
Mae Bryan wedi cynnal sgyrsiau ar draws Cymru ac wedi bod i Leeds hyd yn oed i siarad gyda 150 o ddeintyddion sydd newydd raddio.
Mae'r adborth ar ei gyflwyniadau wedi bod yn bositif dros ben, ac mae'n awyddus i barhau i gyfuno ei arbenigedd proffesiynol â'i stori ganser personol, er mwyn sicrhau bod deintyddion y dyfodol yn gallu helpu i ganfod canserau'r geg yn gynnar.
Mae Bryan yn dioddef sgil effeithiau o’i ganser o hyd – mae diffyg poer yn gwneud rhai bwydydd yn anodd i’w treulio, nid yw’n gallu blasu ei hoff win coch ac fel Cadeirydd Côr Meibion Caerdydd, mae ei lais wedi gostwng ac mae bellach yn un o’r rhai isaf un o ran taro'r nodau bas. Tra bod rhai o'r sgîl-effeithiau yn barhaol, dywed Bryan ei fod yn gallu byw gyda nhw oherwydd ei fod yn dal yma, bedair blynedd yn ddiweddarach.
Mae Bryan yn credu ym mhwysigrwydd cleifion yn ystyried cymryd rhan mewn treial clinigol:
“Mae treialon clinigol mor bwysig – hebddyn nhw ni fyddai gennym ni gyffuriau newydd na thriniaethau newydd. Drwy gymryd rhan yn y treial PEARL, 'dwi wedi chwarae fy rhan i gael gwell triniaeth i bobl â chanser y pen a’r gwddf.”
Yn ogystal â'r gwaith hwn yn ei gymuned broffesiynol, mae Bryan yn parhau i eiriol dros y claf fel cynrychiolydd cleifion ar Uwch Grŵp Arweinyddiaeth Felindre ac ar yr is-bwyllgor Ymchwil, Datblygu ac Arloesi.
Diolch, Bryan am helpu i addysgu'r genhedlaeth nesaf o ddeintyddion am eu rôl yn y gwaith o ganfod canser yn gynnar ac am eich cefnogaeth barhaus i ymchwil yn Felindre!
Cafodd stori Bryan sylw ar ITV Wales at Six ar ddydd Iau 4 Gorffennaf 2024.
Ariannodd Ymchwil Canser Cymru y treial clinigol PEARL ac maent wedi cynnwys Bryan ar eu gwefan yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol Treialon Clinigol 2024.