Neidio i'r prif gynnwy

Ymddiriedolaeth yn lansio strategaeth glinigol a gwyddonol gyntaf erioed

24 Mehefin 2025

Mae cynllun strategol newydd a fydd yn gosod cyfeiriad strategol clinigol a gwyddonol Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre dros y bum mlynedd nesaf wedi ei lansio heddiw.

Bydd strategaeth glinigol a gwyddonol gyntaf erioed y sefydliad yn cryfhau ei statws ac yn mynegi ei rôl yn y cyd-destun rhanbarthol a chenedlaethol.

Mae’n cydnabod pwysigrwydd arweinyddiaeth a llywodraethiant cryf yn y maes clinigol a gwyddonol, ac yn sicrhau bod yr Ymddiriedolaeth yn parhau i drawsnewid gofal a gwella canlyniadau a phrofiad ein cleifion a’n rhoddwyr.

Wedi cyfnod helaeth o ymgynghori lle cafodd staff a rhanddeiliaid gyfle i gyfrannu eu gwybodaeth ac awgrymiadau, mae’r strategaeth yn cyfleu amrywiaeth eang o safbwyntiau ac arbenigedd.

Meddai Nicola Williams, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a Gwyddor Iechyd:

“Rydym yn ymdrechu i fod ar flaen y gad o ran datblygu ymchwil ac arloesi, nid yn unig drwy gyflawni ond hefyd drwy drawsnewid ar draws ein gwasanaethau canser, gwaed a thrawsblannu arbenigol.

“Gyda’n gilydd, ein nod yw cael effaith ddofn ar nifer di-ri o unigolion a chreu’r ffordd i ddyfodol iachach, yn ogystal â darparu gyrfaoedd boddhaol i’n staff anhygoel.”

Prif nod y strategaeth yw sicrhau ein bod yn darparu gofal diogel ac effeithiol o’r radd flaenaf sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, wrth i ni greu gwelliannau o ran ansawdd a diogelwch, yn ogystal â phrofiad y cleifion a’r rhoddwyr.

Mae’n seiliedig ar bedwar nod strategol:

  • cryfhau arweinyddiaeth glinigol a gwyddonol a chydweithio i yrru'r agendau clinigol
  • darparu gofal o ansawdd uchel sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn er mwyn gwella profiad a chanlyniadau
  • ysgogi datblygiadau clinigol a gwyddonol trwy arloesi, ymchwil a datblygu
  • addasu, datblygu a grymuso gweithlu clinigol a gwyddonol cynaliadwy, amrywiol, aml-broffesiynol

Meddai Dr Jacinta Abraham, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol:

“Mae’r strategaeth hon yn cydnabod cyfraniad anhygoel ein gweithlu clinigol a gwyddonol ar draws pob gwasanaeth.

“Gyda dros 1,200 o weithwyr proffesiynol ar draws gwasanaethau canser, gwaed a thrawsblannu, mae eu harbenigedd yn ganolog i’r ffordd rydym yn darparu gofal.

“Mae’r strategaeth yn nodi cyfeiriad clir ac uchelgeisiol, gan atgyfnerthu ein hymrwymiad i ragoriaeth wyddonol, ansawdd clinigol ac arloesedd.”

Lawrlwythwch gopi o Strategaeth Glinigol a Gwyddonol Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag Iestyn James, Rheolwr Cymorth Busnes Clinigol, ar Iestyn.James@wales.nhs.uk.