24 Mehefin 2024
Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn falch o fod wedi cael dyfarniad am achrediad Veterans Aware yn rhan o’i hymrwymiad parhaus i Gyfamod y Lluoedd Arfog.
Nod achrediad Veteran Aware yw sicrhau nad yw cleifion o Gymuned y Lluoedd Arfog dan anfantais wrth gael gofal iechyd. Mae ymddiriedolaethau achrededig yn gwneud hyn drwy ddatblygu, rhannu a llywio'r gwaith o weithredu arfer gorau, wrth geisio codi safonau i bawb sy'n defnyddio gwasanaethau ymddiriedolaethau'r GIG.
Mae'r Ymddiriedolaeth fel darparwr gwasanaeth a chyflogwr yn gefnogwr brwd dros amddiffyn, gan eirioli'n fewnol ac yn allanol ei rhinweddau cyfeillgar i'r lluoedd, hyrwyddo Cyfamod y Lluoedd Arfog a chyflawni Gwobr Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn.
Meddai'r Athro Donna Mead, Cadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre:
“Rwy'n cefnogi'r fyddin ers tro a’r hyn mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn ei gynrychioli ar gyfer y gymuned filwrol. Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre wedi ymrwymo i gefnogi a chyflawni ei haddewid i’r cyfamod a datblygu perthnasoedd ymhellach gyda’r fyddin.”
Gwnaed y cyhoeddiad wrth i Ganolfan Ganser Felindre ddadorchuddio ei baner arbennig i nodi Wythnos y Lluoedd Arfog.
Cynhaliwyd seremoni fach fore Llun 24 Mehefin y tu allan i’r brif dderbynfa lle dadorchuddiodd Prif Weithredwr yr Ymddiriedolaeth, Steve Ham, y faner.
Hefyd yn y seremoni bu araith gan Gadeirydd yr Ymddiriedolaeth, yr Athro Donna Mead, perfformiad cerddorol gan gyn-aelod o staff elusen y ganolfan, Alexandria James, a darlleniad o’r gerdd 'Cân y Milwr' gan Reolwr y Gymraeg, Jo Williams.
Mae’r wythnos yn arwain at Ddiwrnod y Lluoedd Arfog, sy’n cael ei nodi bob blwyddyn ledled y DU ar ddydd Sadwrn olaf mis Mehefin.